g.
7 Ionawr 1720
yn y
Dyffryn Uchaf
gerllaw'r
Groeswen
,
Eglwysilan
— yr oedd ganddo yn
1783
frawd,
Morgan
Thomas
, yn byw yng
Ngwerngerwn
,
Pontypridd
. Argyhoeddwyd ef gan
Howel
Harris
yn
1738 neu 1739
; bu ganddo feddwl mawr o
Harris
byth wedyn, ac am rai blynyddoedd cyfeillachai â
Methodistiaid
ei fro, megis
John
Belcher
[q.v.]
a
Thomas
Williams
[q.v.]
o
Eglwysilan
. Ymaelododd (
1739
) yn
eglwys Annibynnol Watford
, a dechreuodd
bregethu
; gwyddom iddo
bregethu
ym
Meirin
yng
Ngwynllŵg
(‘
Marshfield
’) ym
Mehefin 1741
. Ym
Medi 1741
, braidd yn nannedd y
Calfin
pybyr
Edmund
Jones
[q.v.]
, aeth i'r ysgol ym
Mhentwyn
a gedwid gan
Samuel
Jones
,
gweinidog
capel
Seion
,
Llanddarog
; ond yn
Ionawr 1743
aeth i ysgol ramadeg
Samuel
Thomas
[q.v.]
yng
Nghaerfyrddin
; ac ar
19 Hydref
derbyniwyd ef i'r academi a ailagorwyd yno gan
Evan
Davies
[q.v.]
a
Samuel
Thomas
. Rhydd ei ddyddlyfrau ddarlun byw o'r academi; yr oedd
Morgan
yn weithiwr dygn, a thyfodd yn
ysgolhaig
sownd; daeth yn gyfaill mawr i
Evan
Davies
ond ni theimlai unrhyw agosrwydd at
Samuel
Thomas
. Yr oedd eto'n
Fethodist
, yn gwibio i wrando ar
Harris
a
Rowland
,
Howell
Davies
a
Williams
Pantycelyn
, pan ddigwyddai iddynt fod yn y cyffiniau. Ond cryfhai'r duedd feirniadol ynddo, a chanfyddai wendidau ym mhregethau
‘
Pantycelyn
’
a hyd yn oed
Rowland
; a chyfeillachai fwyfwy â
Philip
Pugh
[q.v.]
a
Christmas
Samuel
[q.v.]
; nid gormod yw dweud ei fod wedi cefnu ar
Fethodistiaeth
erbyn diwedd ei dymor yng
Nghaerfyrddin
. Ond er inni gofio ei gyfeillgarwch â'i gydfyfyriwr
David
Lloyd
[q.v.]
o
Lwynrhydowen
, ni ellir cytuno â
Walter J.
Evans
mai
Armin
oedd; bu'n
Isel-Galfin
hyd ddiwedd ei oes. Tecach yw dywedyd mai tymheredd (a chymedroldeb) ysgolhaig a orfu arno; yr oedd yn ddarllenwr eang, a
sgrifennai
'n fynych,
rhwng 1745 a 1765
, i'r
Gentleman's Magazine
.
Ar
25 Mehefin 1746
urddwyd ef yn
weinidog
i eglwys fawr a changhennog
Henllan Amgoed
, a bu'n hapus a llwyddiannus yno; ond annigonol iawn oedd ei gyflog, ac er gwario cynhysgaeth ei wraig (priododd yn
1750
, gw. isod) ar
gadw
fferm
, prin y gallodd gydio deupen y llinyn. Yn
Nhalacharn
yr oedd yn byw o
1752
ymlaen. Bu'n cydymgais (
1757
) â
David
Jardine
[q.v.]
am
academi newydd y Fenni
, ac yn
1759
ceisiodd y blaid
Galfinaidd
ei gael yn athro yng
Nghaerfyrddin
yn hytrach na
Jenkin
Jenkins
[q.v.]
— dau brawf gweddol dda nad oedd yn
Armin
. Yn
Ebrill 1760
, ‘
because I cannot maintain my family
,’ symudodd i
Delph (Yorks)
, lle y cafodd drafferth gan
Uchel-Galfiniaid
; ac oddi yno yn
1763
i
Morley
,
Leeds
— yno,
Methodistiaid
a'i poenai. Yr oedd wedi hanner addo, yn
1763
, gymryd bugeiliaeth eglwys
Pwllheli
(hen eglwys ei dad-yng-nghyfraith), ond tynnodd ei addewid yn ôl — gwrthododd hefyd wahoddiad i
Benybont-ar-Ogwr
. Gwahoddwyd ef yn daer (ond yn ofer) yn
1766
i ddychwelyd i
Henllan
; soniwyd yn
1777
am iddo fod yn
gyd-athro
â
Jenkins
yng
Nghaerfyrddin
, ac yn
1779
am iddo gymryd lle
Jenkins
, ond bu'n ddigon doeth i wrthod.
Parlyswyd
ef yn
1795
, ac ymddeolodd; bu f. ym
Morley
2 Gorffennaf 1799
. Gyda dyddlyfrau
Edmund
Jones
(ac efallai'n fwy felly na hwy), papurau a dyddlyfrau
Thomas
Morgan
, sy'n awr yn
Ll.G.C.
, yw'r ffynhonnell werthfawrocaf ar hanes
Annibyniaeth
Cymru
yn
ail hanner y 18fed g.
, a'i hymwneud â
Methodistiaeth
.
Bu
Thomas
Morgan
yn briod ddwywaith: (1) â
Sarah
, ferch ieuengaf
Daniel
Phillips
[q.v.]
o
Bwllheli
; bu hi f.
18 Medi 1764
— merch o'r
Bala
, gyda llaw, a
gadwai dŷ
Morgan
yn ei weddwdod; (2) yn
1768
, â
Margaret
, gweddw'r
Lewis
Phillips
a fu'n
weinidog cynorthwyol
(
1748-68
) iddo yn
Henllan
; bu hi f. yn
1786
.
Mab iddo ef oedd
THOMAS
MORGAN
(
1752
-
1821
),
llyfrgellydd
llyfrgell y
Dr.
Daniel
Williams
; g. yn
Nhalacharn
26 Rhagfyr 1752
. Addysgwyd ef yn
ysgol ramadeg Leeds
ac yn
academi Hoxton
; a bu'n
weinidog
yn
Abingdon
ac wedyn mewn eglwysi yn
Llundain
. Yn bur amlwg, nid oedd yn
Galfin
. Bu'n aelod o'r
Bwrdd Presbyteraidd
o
1777 hyd 1799
. Yn
1804
, penodwyd ef yn
llyfrgellydd
y
Dr.
Williams
, a bu f. yn ei swydd, yn
1821 — ar 2 Chwefror
, meddai
Jeremy
, ond ar
21 Gorffennaf
, meddai'r marw-goffa yn y
Monthly Repository
. Yr oedd ganddo radd
LL.D.
— o ba brifysgol, ni ddywedir. Yr oedd yn un o
awduron
y
General Biography
a olygwyd gan
John
Aikin
(gw. y
D.N.B.
ar
Aikin
).
Llyfryddiaeth:
-
Monthly Repository
,
1821
, 492;
-
W. D. Jeremy
,
The Presbyterian Fund and Dr. Williams'
Trust
, 1885
(mynegai).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor