MORGAN, Syr, THOMAS (1604-1679), milwr

Enw: Thomas Morgan
Dyddiad geni: 1604
Dyddiad marw: 1679
Plentyn: John Morgan
Rhiant: Lewis Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yn 1604, yn fab ac aer Lewis Morgan, Llangattock, sir Fynwy (nid brawd Syr Henry Morgan fel y dywedir yn Clark, Limbus Patrum, 315, eithr ei nai, y mae'n debyg). Etifeddodd diroedd yn sir Fynwy a daeth i feddiant o rai eraill, eithr treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Lloegr a thros y môr. Yn 16 oed, heb wybod fawr ddim ond Cymraeg ar y pryd, ymunodd â llu gwirfoddol a Phrotestannaidd Syr Horace Vere a ymladdodd yn y Rhyfel 30 Mlynedd; hyd 1643 yr oedd yn ymladd ar ran y Protestaniaid o dan Bernhard o Weimar ac arweinwyr eraill - gyda Fairfax, Monck, ac eraill a oedd i fod, yn ddiweddarach, yn gydfilwyr ag ef yn y Rhyfel Cartrefol ym Mhrydain. Yn hwnnw, bu'n ymladd o dan Fairfax yng ngogledd Lloegr, 1643-4, ac yna yn y de-orllewin, lle y daeth yn llywiawdr Caerloyw (18 Mehefin 1645); bu hefyd yn cynorthwyo i gymryd Casgwent (Hydref 1645) a Henffordd (22 Rhagfyr 1645) a gwnaeth amryw gyrchoedd ar sir Fynwy - yn ystod y cyrchoedd hyn bu'n abl i roddi rhyw fesur o atal ar yr ymdrechion a wneid i gael atgyfnerthion i fyddin y brenin, a chael, yn hytrach, rai o'r newydd i ymuno â phlaid y Senedd. Ar ôl bod yn helpu i orchfygu'r fyddin Frenhinol olaf a oedd ar faes y gad - yn Stow-on-the-Wold (22 Mawrth 1646) - dychwelodd i sir Fynwy, yn ben-cadfridog, i gymryd rhan yng ngwarchae Rhaglan lle y bu llythyru bywiog rhyngddo ef a'r marcwis Worcester. Bu peth helynt ymhlith ei filwyr pan ryddhawyd hwynt o'r fyddin yng Nghaerloyw yn 1647, eithr siomodd Morgan obeithion brenhinwyr trwy gario allan mewn modd teyrngarol a chywir orchmynion y Senedd. Ar gais Monck fe'i danfonwyd i Sgotland yn 1651 gyda chatrawd o feirchfilwyr. Bu yno chwe blynedd (gan ddyfod yn ' major-general') hyd nes y cafodd ei alw yn ei ôl i ymladd - o dan Syr W. Lockhart, mewn enw - yng nghyrch y Dunes (1657-8); enillodd enw da iawn iddo'i hun yn yr ymladd hwnnw. Wedi iddo ddod yn ôl cafodd ei wneuthur yn farchog (26 Tachwedd 1658) gan Richard Cromwell (Whitelock, Memorials, iv, 338) - y mae Shaw (Knights, 224) a Noble (House of Cromwell, ii, 543) yn ei gamenwi yn John. Dychwelodd i Sgotland a bu'n cynorthwyo Monck i ad-drefnu ei fyddin a'i dwyn tua'r De i chwarae ei rhan yn yr Adferiad; diolchwyd iddo am hyn gan Dŷr Cyffredin (12 Ionawr 1660). Yr oedd yn gomisiynwr milisia yn sir Fynwy y mis Mawrth dilynol; ar 11 Hydref, fodd bynnag, gollyngwyd aelodau ei gatrawd yn rhydd ac eithrio'r milwyr a oedd dano ef ei hun; yn dâl am ei wasanaeth cafodd ei wneuthur yn farwnig (7 Chwefror 1661). Ar ôl cyrch byr a di-glod yn Portugal (1661), ymneilltuodd Morgan i'r stad a oedd wedi dyfod i'w feddiant yn Kynnersley, Swydd Henffordd, eithr fe'i galwyd yn ôl yn 1665 i fod yn llywiawdr Jersey pan oedd y Ffrancwyr yn bygwth ei goresgyn. Profodd ei fod cystal gweinyddwr ag a fuasai yn swyddog rhyfel, er ei fod bron yn anllythrennog ac mai prin y gallai dorri ei enw. Bu farw yn ei swydd ar 13 Ebrill 1679. Er mai dyn byr o gorffolaeth ydoedd, yr oedd yn cael ei gyfrif yn uchel ymhlith swyddogion milwrol ei gyfnod, ac yr oedd iddo enw da hefyd oblegid y modd mawrfrydig y byddai'n arfer trin ei elynion. Priododd ar 10 Medi 1632 a bu iddo naw mab.

Dilynodd yr hynaf o'r meibion, Syr JOHN MORGAN, yr ail farwnig, gamre ei dad, gan fyned yn gapten yn y 9fed Catrawd Pedydd (19 Mehefin 1685), ac yn gyrnol yn y Royal Welsh Fusiliers (20 Ebrill 1692); cynrychiolodd sir Faesyfed (1681-4) a sir Henffordd (1689-93) yn y Senedd. Priododd Hester, merch James Price, Pilleth (aelod seneddol dros sir Faesyfed, 1624, a stiward cantref Maelienydd o 1682 hyd 1688); eithr ar Swydd Henffordd yr oedd diddordebau'r cenedlaethau a'i dilynodd yn canolbwyntio. Daeth y teitl i'w ddiwedd pan fu ei or-or-ŵyr, Syr JOHN MORGAN, farw ar 29 Ebrill 1767.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.