MORGAN, THOMAS (1543 - c. 1605), Pabydd a chynllwynwr

Enw: Thomas Morgan
Dyddiad geni: 1543
Dyddiad marw: c. 1605
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Pabydd a chynllwynwr
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Honnai ei fod yn hanfod o ' right worshipful family of Monmouthshire '; tybia awdur yr erthygl arno yn y D.N.B. mai teulu Morgan, Llantarnam ydoedd hwn, tyb David Mathew (Celtic Peoples and Renaissance Europe, 89) ydyw mai perthyn i'r teulu Morgan, Machen yr oedd, eithr ni ellir ei gysylltu â'r naill deulu na'r llall fel y rhoddir eu hachau yn Clark, Limbus, 311-3, 322-3. Ar ôl cael addysg yn Rhydychen - ni wyddys ym mha goleg y bu - a gwasnaethu yng nghartrefi esgob Exeter ac archesgob Caerefrog (1561-8), cymeradwywyd ef yn 1569 gan ieirll Pembroke a Northumberland i wasnaethu George Talbot, 6ed iarll Shrewsbury, y gŵr yr oedd Mari frenhines Sgotland yn garcharor yn ei gartref ef, yn Tutbury, ar y pryd. Fe'i cysylltodd Morgan ei hun â'r frenhines, bu'n foddion i gludo llythyrau dirgel iddi, ac, ar ôl iddo gael ei gwestiyno gan y Cyngor (15 Mawrth 1572) fe'i carcharwyd yn Nhŵr Llundain am naw mis fel un a fu â chyfran ganddo yn y ' Ridolfi Plot.' Wedi ei ryddhau aeth i Baris; yno, yn ysgrifennydd i James Beaton, archesgob Glasgow a llys-gennad Mari, parhaodd i ofalu am ohebiaeth Mari hyd y cyhuddwyd ef gan Dr. William Parry o gychwyn cynllwyn i ladd Elisabeth - y cynllwyn y torrwyd pen Parry o'i blegid yn 1585. Y flwyddyn cynt (1584) ymddangosodd yr athrod dienw ar gynghorwyr Protestannaidd Elisabeth a elwir yn Leycesters' Commonwealth, gwaith yr oedd Walsingham yn gwbl argyhoeddedig mai Morgan ydoedd ei brif awdur; credai Mari mai dyna paham y mynnai Llywodraeth Elisabeth fod i Morgan ran a chyfran yng 'nghynllwyn' Parry er mwyn profi bod rhesymau digonol dros ei gael allan o'r wlad. Er na feiddiai Henri II gythruddo Sbaen trwy gydsynio â'r cais, cadwodd ef yn y Bastille (1585-90), gan wrthod dro ar ôl tro wrando ar geisiadau Elisabeth am ei anfon allan o'r wlad a cheisiadau Mari am iddo ei ryddhau; yno parhaodd Morgan i ohebu â Mari (a chafodd Elisabeth wybod am gynnwys yr ohebiaeth) a bu'n helpu i drefnu'r ' Babington Plot ' (1586). Yn y cyfamser yr oedd yn cadw cyswllt â chyfeillion a pherthnasau Pabyddol yn Ne Cymru a cheisiodd eu defnyddio yn ei gynlluniau a'i gynllwynion (Cal. Scot. Pap., v, 87, 142; Hist. MSS. Com., Cecil, iv, 1, 6-10). Pan gafodd ei ryddhau yn 1590 yr oedd marwolaeth ei noddwraig wedi peri iddo golli ei ddylanwad a'i bensiwn, a chan ei fod yn elynol i'r Jesiwitiaid ac yn bleidiol i hawliau mab Mari, yr oedd iddo elynion yn ei faes arbennig ei hun. Er mwyn gwrthweithio dylanwad Parsons ac Allen, cefnogai ef ddyrchafu Owen Lewis, esgob Cassano - yr oedd barn Owen ar agwedd pethau yn Lloegr yn fwy derbyniol ganddo. Pan fwriwyd ef allan o Ffrainc aeth i'r rhan honno o'r Iseldiroedd a oedd o dan lywodraeth Sbaen; yno llwyddodd plaid y Jesiwitiaid i gael ei ddodi yng ngharchar am dair blynedd arall (1590-2). Yn ystod gweddill teyrnasiad Elisabeth bu'n gwibio'n ddi-ddylanwad yma a thraw yn Ewrop. Yn gynnar wedi i Iago ddyfod i'r orsedd aeth at Syr Thomas Parry (a fu farw 1616), llysgennad Lloegr ym Mharis, gyda chynlluniau i geisio cymodi'r Pabyddion yn Lloegr a gwneuthur niwed i'r Jesiwitiaid. Ym mis Ionawr 1605 cyhuddwyd ef o gynllwynio gyda chariadferch Henri IV (yr oedd ei chwaer hi mewn cyswllt â Phabyddion anfoddog yn Lloegr) a chondemniwyd ef i farwolaeth, eithr yn niwedd y flwyddyn yr oedd yn fyw o hyd, ym Mharis, ac yn disgwyl y gymynrodd a addawsid iddo gan Mari frenhines Sgotland. Ar ôl hyn nid oes hanes amdano, er ei bod yn bosibl ei fod yn fyw yn 1611.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.