Cywiriadau

MORGAN, Syr THOMAS (c. 1542 - 1595), milwr

Enw: Thomas Morgan
Dyddiad geni: c. 1542
Dyddiad marw: 1595
Rhiant: William Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Samuel Henry Fergus Johnston

mab iau William Morgan, S. George's (Sir Forgannwg) a Phencarn (sir Fynwy). Yr oedd tua 30 oed pan ddewiswyd ef ym mis Ebrill 1572 yn gapten y cwmni cyntaf o wirfoddolwyr o Loegr a anfonwyd i gynorthwyo'r Is-Ellmyn yn eu gwrthryfel yn erbyn Sbaen. Ar wahân i gyfnod byr yn Iwerddon yn 1574 treuliodd Morgan weddill ei oes yn yr Iseldiroedd. Dilynodd Syr Humphrey Gilbert yn gyrnol y gatrawd o wirfoddolwyr o Loegr a bu'n gweithredu fel llywiawdr Flushing a Bergen-op-Zoom. Y gwaith pwysicaf a gyflawnodd ydoedd dysgu i filwyr Lloegr ddyfod yn gyfarwydd â'r modd i ddefnyddio'r llawdryll a elwid yn 'musket' ac addysgu ysgol o swyddogion - Syr Roger Williams yn eu plith - i gario ei waith arbennig ef ei hun ymlaen. Dychwelodd i Loegr yn 1593 a bu farw yn New Fulham ar 22 Rhagfyr 1595.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

MORGAN, Syr THOMAS

Nid yw'n hollol gywir na ddychwelodd i'r wlad hon rhwng 1574 a 1593 - dengys cofnodion swyddogol yn y P.R.O. iddo ef a Syr Roger Williams gael eu galw'n ôl, pan ddaeth bygythiad yr Armada.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.