MORGAN, RICHARD (1743 - 1805), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Richard Morgan
Dyddiad geni: 1743
Dyddiad marw: 1805
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1743 yn Ystradisaf, Ystradgynlais - aelodau yng Nghwmllynfell oedd ei rieni. Yn brentis i wneuthurwr llestri pren, ymaelododd yn eglwys Tynewydd, Glyntawe; dechreuodd bregethu; o ysgol Joseph Simmons yng Nghastell Nedd aeth yn 1765 i academi'r Fenni. Urddwyd ef, 28 Medi 1769, yn weinidog Henllan Amgoed a'i changhennau, a bu yno weddill ei oes. Nodweddid ef gan weithgarwch eithriadol, onid gormodol, fel darllenwr (darllenai'r Beibl yn yr ieithoedd gwreiddiol wrth 'gadw dyletswydd') ac fel gweinidog; yr oedd yn Galfin llym a digymrodedd. Bu farw 10 Chwefror 1805, yn 62 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.