MORGAN, THOMAS REES (1834 - 1897), peiriannydd, gwneuthurwr peiriannau, a dyfeisydd

Enw: Thomas Rees Morgan
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1897
Priod: Elizabeth Nicholas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd, gwneuthurwr peiriannau, a dyfeisydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 31 Mawrth 1834, ym Mhenydarren, Merthyr Tydfil. Bu'n gweithio mewn gweithydd haearn nes iddo, yn 10 oed, gael damwain a gollodd iddo ei goes chwith y tu isaf i'r pen-glin. Bu wedyn o dan addysg yn ysgolion John Thomas ('Ieuan Ddu'), Owen Evans, a Taliesin Williams ('Taliesin ab Iolo'); o dan yr olaf dysgodd fathemateg ac elfennau mecaneg. Bu wedyn yn gweithio yn y gweithydd haearn lleol. Ymfudodd i U.D.A. yn 1865 a sefydlu yn Pittston, Pa., gan weithio yn siopau-gwaith cwmnïau rheilffyrdd. Bu wedyn yn y Cambria Iron Works (Johnstown) ac yn yr Atlas Works, Pittsburgh. Yn 1868 dechreuodd ei fusnes ei hun gan wneuthur morthwylion a weithir gan ager; o'r cychwyn syml hwn y datblygodd gwaith mawr y Morgan Engineering Company a chwmnïau eraill. Daeth ei ffyrm yn ymgymerwr mawr, gan wneuthur llawer o waith i'r Llywodraeth, yn enwedig i'r llynges. Ei ddyfais ef a'i gwnaeth yn bosibl i blygu a ffurfio'r platiau dur mawr at longau rhyfel. Bu farw 6 Medi 1897 yn Alliance, Ohio.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.