MORGAN
,
REES
(
1764
-
1847
),
pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
;
g. yn y
Capelhir
,
Talyllychau
,
sir Gaerfyrddin
, mab
Morgan
Rees
a fynychai'r
seiat Fethodistaidd
yng
Nglanyrafon-ddu Ganol
. Argyhoeddwyd ef yn ieuanc o dan weinidogaeth
William
Llwyd
o
Gaeo
[q.v.]
, ei gyfaill mawr ar ôl hynny. Dechreuodd
bregethu
c.
1784-5
, a bu ar y maes ar hyd ei oes faith dros
Gymru
oll. Cymdeithasodd lawer â
Daniel
Rowland
,
Williams
Pantycelyn
, ac eraill o'r prif
ddiwygwyr Methodistaidd
. Bu f.
6 Ebrill 1847
, a chladdwyd ym mynwent
Talyllychau
. Ni ddylid ei gymysgu ef â
Rhys
Morgan
,
Glancledan-fawr
,
Llanwrtyd
, a fu'n
gynghorwr
gyda'r
Methodistiaid
ym mlynyddoedd cyntaf y diwygiad.
Llyfryddiaeth:
-
Y Drysorfa
,
1847
, 297-301;
-
G. M. Roberts
,
Y Pêr Ganiedydd [Pantycelyn]. Cyfrol 1 Trem
ar ei fywyd; Cyfrol 2: Arweiniad i'w waith
, Cyfrol 1
Aberystwyth, 1949; Cyfrol 2 Aberystwyth, 1958
, 180;
-
Methodistiaeth Cymru
, 1851–6
, iii, 328.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe