MORGAN, DAVID LLOYD (1823 - 1892), meddyg yn y llynges

Enw: David Lloyd Morgan
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg yn y llynges
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Milwrol
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Rhosmaen, Llandeilo-fawr, mab David Morgan. Astudiodd ffisigwriaeth yn Llundain a Phrifysgol S. Andrews. Ymunodd â'r llynges yn 1846, a dyrchafwyd ef yn staff-feddyg (surgeon) yn 1854. Gwelodd lawer o droeon hynod ar draethau gorllewin Affrica (1847-9) ac yn y Crimea (1850-6), ac yn China gyda'r fyddin (1857-61). Yn 1862-5 yr oedd yn swyddog meddygol ar H.M.S. Euryalus, arolygwr Plymouth 1878-80, a Haslar 1880-2. Bu'n feddyg i'r frenhines. Bu farw 3 Rhagfyr 1892 yn Rhosmaen, Llandeilo-fawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.