MORGAN, arweinydd gwrthryfelwyr Morgannwg

Enw: Morgan
Plentyn: Angharad ferch Morgan ap Maredudd
Rhiant: Maredudd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd gwrthryfelwyr Morgannwg
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr
Awdur: Thomas Jones Pierce

yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294-5. Mynnai ef mai yn erbyn arglwyddi Morgannwg yn unig y rhyfelai, oherwydd achwyniadau personol o'i eiddo yn erbyn teulu Clare. Efallai, felly, mai Morgan ap Maredudd ydoedd, disgynnydd uniongyrchol o Rydderch ab Iestyn; cymerasid tiroedd ei dad, Maredudd, arglwydd Cymreig olaf Caerlleon-ar-Wysg, gan Gilbert de Clare 20 mlynedd yn gynharach. Mewn un cronicl cyfoes enwir Morgan yn Rhys ap Morgan; awgryma hyn ryw gymaint o gymysgu rhyngddo â Rhys, mab iau Morgan Fychan ap Morgan Gam. Ymostyngodd Morgan i'r brenin ym mis Gorffennaf 1295 a derbyniodd y pardwn brenhinol. Yr oedd ei ferch, Angharad, yn gynfam i deulu presennol Morganiaid Tredegar.

Gweler Morgan ap Hywel am Faredudd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.