MORGAN GAM (bu farw 1241), arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg

Enw: Morgan Gam
Dyddiad marw: 1241
Priod: Matilda wraig Morgan Gam
Priod: Ellen ferch Gronw ab Einion
Priod: Janet ferch Elidyr Ddu
Plentyn: Maud ferch Morgan Gam
Plentyn: Morgan Fychan ap Morgan Gam
Rhiant: Gwenllian ferch Ifor Bach
Rhiant: Morgan ap Caradog ap Iestyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Morgan ap Caradog ap Iestyn, o Gwenllian (y mae'n debygol), merch Ifor Bach. Dilynodd ei frawd hŷn, Lleision, c. 1213, a chan fabwysiadu polisi ei dad, sef polisi o gyfeillgarwch a chyduniad â'r tywysogion cynhenid, bu o gymorth mawr i fwriadau Llywelyn I drwy beri aflonyddwch i arglwyddiaid Clare ym Morgannwg. Yn ôl yr achau priododd (1), Janet, merch Elidyr Ddu, a (2), Ellen, merch Gronw ab Einion, serch bod un o'i siarteri yn cyfeirio at wraig o'r enw Matilda. Yr oedd ganddo dri mab o leiaf; o'r rhain Morgan Fychan oedd y mwyaf adnabyddus. Priododd Maud, merch iddo, ag aelod o deulu Turberville, Coety. Bu farw ym mis Chwefror 1240-1, a chladdwyd ef ym Margam.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.