MORGAN FYCHAN
(bu f.
1288
),
arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth (‘honour’) Morgannwg);
mab
Morgan Gam
[q.v.]
. Fel ei dad, yr oedd yn
gynorthwywr i dywysogion
Gogledd Cymru
. Efallai i farwniaeth
Afan
gael ei chymryd oddi arno am dymor, oblegid yn
1282
disgrifir ef fel
arglwydd hanner cwmwd
ym
Maglan
. Yr oedd ei fab
LLEISION
(bu f.
1328
), y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw ‘
de Avene
,’ yn ddiamheuol yn
arglwydd Afan
, ac fe'i dilynwyd ef yno gan ei fab,
John de
Avene
, a chan ei ŵyr,
Thomas de
Avene
. Rywbryd ar ôl
1350
daeth
Afan
i feddiant y pen-arglwydd, oherwydd, y mae'n debygol, cyfnewid tiroedd a wnaethpwyd gan
Jane
, merch ac aeres
Thomas
, a gwraig
William
Blount
. Sylwer, serch hynny, mai
Rhys
, mab iau
Madog (Morgan ?) Fychan
, a etifeddodd diroedd ei dad ym
Maglan
, oedd cyndad llawer o deuluoedd pur adnabyddus
Morgannwg
— teulu
Mackworth
a theulu
Williams
,
Aberpergwm
, yn eu plith.
Llyfryddiaeth:
-
G. T. Clark
,
Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de
Glamorgan pertinent
. Ail arg., 1910
;
-
D. Rhys Phillips
,
The Hist. of the Vale of Neath
,
Abertawe, 1925
.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth