MORGAN, ELUNED (1870 - 1938), llenor

Enw: Eluned Morgan
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1938
Rhiant: Lewis Jones
Rhiant: Ellen Jones (née Griffith)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd ar fwrdd y llong Myfanwy ym Mae Biscay yn ferch i Lewis Jones a'i bedyddio â'r cyfenw 'Morgan.' Magwyd hi yn y 'Wladfa Gymreig' a'i haddysgu yn yr ysgol Gymraeg yno gan R. J. Berwyn a 'Glan Tywi.' Daeth i Gymru yn 1885, a thrachefn yn 1888 pan arhosodd yn ysgol y Dr. Williams yn Nolgellau am ddwy flynedd. Wedi dychwelyd i'r Wladfa cadwodd ysgol breswyl i enethod yn Nhrelew am ddwy flynedd. Dechreuodd gystadlu ar ysgrifennu traethodau i eisteddfodau'r Wladfa yn 1891, a bu'n golygu a chysodi'r Drafod am gyfnod yn 1893. Bu ar ymweliad â Chymru eto yn 1896, a dechreuodd gyhoeddi ysgrifau yn Cymru (O.M.E.) yn 1897. Gweithiodd yn galed i godi ysgol ganolraddol Gymraeg yn Gaiman, ac aeth ar daith i'r Andes yn 1898, gan anfon yr hanes i Cymru (O.M.E.) (1899-1900). Bu'n un o'r cynorthwywyr yn Llyfrgell Caerdydd ac yn darlithio ar hyd a lled Cymru yn ystod 1903-9, ac ar daith yn y Dwyrain Canol cyn dychwelyd i'r Wladfa. Bu'n byw yng Nghaerdydd, 1912-8, ac wedi hynny yn arweinydd ym mywyd crefyddol a Chymraeg y Wladfa hyd ei marwolaeth yno 29 Rhagfyr 1938.

Cyhoeddodd bedwar llyfr: Dringo'r Andes, 1904 (ail arg. 1907, 3ydd arg. 1917); Gwymon y Môr, 1909, yn rhoi hanes mordaith o Gymru i Batagonia; Ar Dir a Môr, 1913, yn cynnwys hanes ei thaith ym Mhalesteina; a Plant yr Haul, 1915 (3ydd arg. 1926), yn rhoi hanes Indiaid Peru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.