MORGAN ap CARADOG ap IESTYN (bu farw c. 1208), arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg

Enw: Morgan ap Caradog ap Iestyn
Dyddiad marw: c. 1208
Priod: Gwerfil ferch Idnerth ap Cadwgan
Priod: Gwenllian ferch Ifor Bach
Plentyn: Sybil ferch Morgan ap Caradog ap Iestyn
Plentyn: Owain ab Morgan ap Caradog ap Iestyn
Plentyn: Lleision ab Morgan
Plentyn: Morgan Gam
Rhiant: Gwladus ferch Gruffydd
Rhiant: Caradog ab Iestyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awduron: Thomas Jones Pierce, Robert Thomas Jenkins

mab Caradog a Gwladus, ferch Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr. Gwas anfodlon a fu ef erioed i arglwyddi Normanaidd Morgannwg ac yr oedd yn glos ei gyswllt â pholisi ei gefnder, yr arglwydd Rhys; ef, y mae'n debygol, oedd arweinydd y gwrthryfel ym Morgannwg yn 1183 (?). Bu'n briod ddwywaith - (1), â Gwenllian, merch Ifor Bach, a (2) â Gwerfil, ferch Idnerth ap Cadwgan. Bu iddo bedwar mab o leiaf; y trydydd mab, Morgan Gam, a'i dilynodd. Ymddengys i ferch iddo, sef Sybil, briodi ag aelod o deulu Turberville, Coety.

Edrydd Gerallt Gymro (Itin., i, cap. 8) mai Morgan ap Caradog a dywysodd yr archesgob Baldwin yn 1188 ar draws y sugndraethau rhwng aberoedd Afan a Tawe. O bedwar mab Morgan y gwyddom eu henwau, LLEISION oedd yr hynaf; yn y siartrau a roes Morgan i abaty Margam, enwir Lleision ac OWAIN droeon fel cydgyfranwyr â'u tad yn y rhodd. Gellid meddwl i Owain farw o flaen Lleision; nid yw'r dyddiadau'n sicr, gan fod llawer o'r siartrau'n ddiddyddiad neu wedi eu camddyddio.

Rhoddwyd arglwyddiaethau Cymreig (gwrogaethol i arglwyddi Normanaidd Morgannwg) i eraill o dylwyth Iestyn ap Gwrgant. MAREDUDD fab Caradog ap Iestyn a gafodd arglwyddiaeth Meisgyn - cymerwyd hi oddi ar ei fab ef, HYWEL, gan y Clariaid, tua 1245. CADWALLON fab Caradog a gafodd arglwyddiaeth Glynrhondda; a'i ŵyr ef, OWAIN GRYCH (ap Morgan), oedd yr arglwydd Cymreig olaf yno, oblegid cyn 1295 yr oedd y Clariaid wedi ei diddymu hithau hefyd. Yn ôl Gerallt Gymro (Itin., i, cap. 7), lladdwyd Cadwallon gan ei frawd OWAIN, a fu yntau farw'n fuan wedyn.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.