MILLS
,
RICHARD
(‘
Rhydderch Hael
’;
1809
-
1844
),
cerddor
;
g.
Mawrth 1809
yn
Tynewydd
, gerllaw
Llanidloes
, mab
Henry
a
Jane
Mills
(ail wraig
Henry
Mills
). Wedi gadael yr ysgol yn 11 oed dechreuodd ddysgu crefft
gwehydd
. Daeth yn hysbys fel
cyfansoddwr emyn-donau
pan nad oedd ond 15 oed, gan i‘w dôn, ‘
Maes-y-llan
,’ gael ei chyhoeddi yn
Seren Gomer
. Yr oedd yn aelod gweithgar o
Gymdeithas Gerddorol Bethel
,
Llanidloes
. Yn
1835
cyhoeddodd
Y Gwladgarwr
ddarlith ganddo ar y testun, ‘
Y gelfyddyd o gerddoriaeth
.’ Cafodd y wobr am emyn-dôn yn eisteddfod
1838
Cymreigyddion y Fenni
, ac yn
1840
wobr gyffelyb mewn
eisteddfod yn
Lerpwl
. Yn
1840
ymddangosodd ei
Caniadau Seion
, a chafwyd
Atodiad
yn
1842
. Cafodd y ddau waith hyn ddylanwad mawr ar ganu cynulleidfaol yng
Nghymru
, a gellir eu cyfrif yn garreg-filltir ar ffordd gwella‘r canu hwnnw. Dyma‘r casgliad gorau hyd yn hynny; yr oedd yn cynnwys tonau gan
J. Ambrose
Lloyd
,
Rosser
Beynon
, a
Richard
Mills
ei hunan, ynghyd ag anthemau gan
Handel
a
Haydn
. Cafwyd ychwaneg o emyn-donau ac anthemau yn
Yr Arweinydd Cerddorol
, a gyhoeddwyd mewn tair rhan gan
Mills
,
1842-5
, y drydedd ran wedi ei farw ef; yn y gwaith hwn y cafwyd am y tro cyntaf emyn-dôn
Almaenaidd
(‘
Mannheim
,’
J. S.
Bach
) mewn casgliad wedi ei gyhoeddi yng
Nghymru
; ceid yn y gwaith hefyd
gyfarwyddiadau mewn canu a cherddoriaeth
. Bu gwerthu mawr ar y casgliadau hyn, a bu i ansawdd emyn-donau
Mills
a gwaith rhai eraill a gyhoeddodd ddylanwad er daioni ar safon canu cynulleidfaol; bu yntau hefyd yn
darlithio
llawer mewn rhai siroedd yng
Nghymru
ar y pwnc hwn. Bu f.
24 Rhagfyr 1844
. Priododd ei weddw â
John
Pryse
[q.v.]
.
Mab iddo oedd
RICHARD
MILLS
(
1840
-
1903
), a aeth â thraddodiad cerddorol y
Millsiaid
i ardal
Rhosllanerchrugog
,
sir Ddinbych
; g.
1 Hydref 1840
. Wedi i‘w dad farw yn
1844
anfonwyd y bachgen ieuanc i‘r
Drenewydd
,
sir Drefaldwyn
, at dad ei fam. Daeth yn ôl maes o law i
Lanidloes
i fod yn
gysodydd cerddoriaeth hen nodiant
yn swyddfa ei lysdad
John
Pryse
. Astudiodd gerddoriaeth yn ddyfal,
enillodd wobr mewn eisteddfod
yn
Llanidloes
am gyfansoddi tôn, ‘
Pendref
,’ ac mewn eisteddfod ddiweddarach (
Llanidloes
,
1864
) cafodd y wobr am
gyfansoddi ‘canon’ i dri llais
. O
Lanidloes
aeth i
Wrecsam
i wasnaethu
Hughes a‘i Fab
, a bu‘n
gyfarwyddwr cerddorol
i‘r ffyrm honno hyd
1877
. Pan oedd yn
Wrecsam
bu‘n
arweinydd corau
yn y dref honno ac yn
Broughton
a
Bangor-is-coed
; ef oedd
arweinydd côr eisteddfod Wrecsam
,
1876
. Wedi iddo briodi
Sarah
Owen
,
Aberderfyn
,
Rhosllanerchrugog
, yn
1876
sefydlodd (yn
1878
) argraffdy yn y lle hwnnw, ac yn
1894
dechreuodd
gyhoeddi
y
Rhos Herald
, a pharhau i
olygu‘r newyddiadur
hwnnw tra bu byw.
Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth
— anthemau megis ‘
Duw sydd noddfa
,’ ‘
Ai gwir yw
,’ ‘
Yr Arglwydd yw fy Mugail
,’ a ‘
Cân Moses a Chân yr Oen
’; canigau megis ‘
Y Wybren Dlos
,’ ‘
Y Dderwen Lydan
,’ etc.; gw. hefyd
Ceinion y Gân
. Canwyd llawer ar ei driawd, ‘
Nid i mi
,’ a‘r ddeuawd, ‘
Beti Wyn
.’
Cyfansoddodd a threfnodd lawer o donau
— gw. esiamplau yn
Rhaglen Cymanfa Ganu Goffa Richard Mills
,
1946
. Efe a gyfansoddodd y dôn ‘
Arweiniad
.’ Bu ‘
Côr y Rhos
’ yn llwyddiannus iawn o dan ei arweiniad ef. Bu f.
18 Mai 1903
a chladdwyd ym mynwent y
Rhos
.
Llyfryddiaeth:
-
R. Mills
a
N. Cynhafal Jones
,
Buchdraeth y Parch. John Mills. F.R.G.S.,
M.R.A.S …
, a
, Aberdar, 1881
;
-
Y Traethodydd
,
1901, 1902, 1903
;
-
Y Cerddor
,
Rhagfyr 1890, Ionawr 1891
, a
Gorffennaf 1903
;
-
Bye–Gones, relating to Wales and the Border
Counties
,
1903
;
-
Cymru
, v, 30;
-
M. O. Jones
,
Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig
,
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890
;.
Awdur:
Prifathro Gwilym Prichard Ambrose, M.A., Caerlleon-ar-Wysg