MILLS
,
HENRY
(
1757
-
1820
),
arloeswr gyda chanu cynulleidfaol yng Nghymru
;
g. yn
1757
yn
amaethdy Tanrallt
, gerllaw
Llanidloes
. Pan oedd yn ddyn ieuanc tynnodd ei lais sylw
Thomas
Charles
o‘r
Bala
pan oedd hwnnw ar ymweliad â
Bethel
, capel y
Methodistiaid Calfinaidd
,
Llanidloes
— ymunodd
Mills
â‘r
Methodistiaid Calfinaidd
yn
1780
— ac ar awgrym
Charles
rhoes y cyfarfod misol
ofal canu cynulleidfaol Methodistiaid
yr ardal ar ysgwyddau
Mills
, serch fod newydd-deb y syniad, ieuenctid
Mills
, a‘i fod yn
abl i ganu dau neu dri o offerynnau cerdd
, yn rhwystr yng ngolwg rhai o‘r blaenoriaid mwyaf llym a chul. Bu‘n briod ddwywaith. Meibion o‘i briodas gyntaf oedd (1)
Edward
Mills
, tad
John
Mills
[q.v.]
ac
Edward
Mills
[q.v.]
; (2)
James
Mills
(isod)
. Mab o‘r ail briodas oedd
Richard
Mills
[q.v.]
. Bu
HENRY
MILLS
f.
28 Awst 1820
.
Parhawyd ei waith cerddorol gan ei fab
JAMES
MILLS
(
1790
-
1844
); g. yn
1790
ym
Melin-y-wern
, gerllaw
Llanidloes
. Cafodd ei
alluoedd cerddorol
ef gyfle da yn y gymdeithas gerddorol a sefydlwyd yn
Bethel
yn
1834
gyda‘r amcan o wella safon caniadaeth gynulleidfaol; cyfarfyddai‘r gymdeithas ar y Suliau, ac yr oedd yn perthyn iddi hefyd ddosbarth-noson-waith
lle y dysgid elfennau cerddoriaeth gan tua 60 neu 70 o bobl ieuanc.
Cyfansoddodd
JAMES
MILLS
lawer o anthemau a thonau — gw.
Y Cerddor Eglwysig a Caniadau Seion
— a chadwodd ei dôn a elwir ‘
Hosannah
’ ei lle mewn casgliadau diweddarach. Bu f. yn y flwyddyn
1844
.
Llyfryddiaeth:
-
R. Mills
and
N. Cynhafal Jones
,
Buchdraeth y Parch. John Mills. F.R.G.S.,
M.R.A.S …
, a
, Aberdar, 1881
;
-
Y Traethodydd
,
1901
,
1903
;
-
M. O. Jones
,
Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig
,
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890
;
-
Eminent Welshmen
, 1908
;
-
Y Cerddor
,
Rhagfyr 1890
.
Awdur:
Prifathro Gwilym Prichard Ambrose, M.A., Caerlleon-ar-Wysg