MICHAEL
,
DAVID
(‘
Dewi Afan
’;
1842
-
1913
),
bardd
;
g. yn
Llanelli
7 Gorffennaf 1842
. Bedyddiwyd ef yn
eglwys Fedyddiedig Penuel
,
Cwmafan
, ac yn ddiweddarach ymaelododd yn y gangen newydd yn
Nhabor
a'i ethol yn
ddiacon
yno.
Canai yn bennaf ar destunau Beiblaidd a moesol
. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonol cynnar mewn cyfrol o'r enw
Fy Ngwanwyn
(
Aberdâr
1873
), a gyflwynwyd i'w fam
Margaret
Michael
, ac ymddangosodd wedi hynny eiriau
Cymraeg
Ruth a Naomi … A Cantata
(
Cwmavon
,
1876
), a
Gwaredigaeth Pedr o'r Carchar
(3ydd arg.,
Cwmafon
,
1885
; arg. 1af,
1879
; ail arg.,
1880
). At hyn, cyhoeddodd gyda
Llewelyn
Griffiths
(‘
Glan Afan
’) ddau ddetholiad o farddoniaeth beirdd cyfoes dan y teitlau
Blodeu'r Beirdd
(
Cwmafon
,
1871
) ac
Oriel y Beirdd
(
Cwmafon
,
1882
). Bu f.
11 Awst
1913
, gan adael un ferch a phedwar mab. Nai iddo oedd
Thomas
Morgan
(‘
Afanwyson
’) [q.v.]
. Na chymysger ef â
DAVID
MICHAEL
(
1785
-
1860?
),
telynor
ym
Merthyr Tydfil
(
Byw. Cerdd. Cymr.
;
Llyfr Cerdd Dannau
).
Llyfryddiaeth:
-
‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27
cyf., N.L.W. MSS. 9251–77
;
-
Seren Cymru
,
10 Hydref 1913
;
-
Seren Gomer
,
1913
, 351;
-
South Wales Daily News
,
14 Awst 1913
.
Awdur:
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth