MEYRICK, Syr SAMUEL RUSH (1783 - 1848), hynafiaethydd

Enw: Samuel Rush Meyrick
Dyddiad geni: 1783
Dyddiad marw: 1848
Priod: Mary Meyrick (née Parry)
Rhiant: Hannah Meyrick (née Rush)
Rhiant: John Meyrick
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 28 Awst 1783, mab John Meyrick, Westminster a Fulham, a Hannah, merch a chyd-aeres Samuel Rush. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen (B.A. 1804, M.A. a B.C.L. 1810, D.C.L. 1811). Bu'n gweithredu am rai blynyddoedd fel gŵr o'r gyfraith yn y llysoedd eglwysig a llys y Morlys yn Llundain, gan fyw y pryd hwnnw yn Llundain, lle y cynullodd gasgliad gwerthfawr dros ben o wisgoedd ac offer rhyfel mewn dur a haearn, a dyfod yn gymaint o awdurdod ar y pethau hyn nes y gofynnid ei farn arnynt gan awdurdodau Tŵr Llundain a'r brenin Siôr IV; ar hyn gweler y bywgraffiad yn D.N.B. Priododd, 3 Hydref 1803, Mary, ferch a chyd-aeres James Parry, Llwyn Hywel, Sir Aberteifi. Yn 1809 (a 1810) cyhoeddwyd, yn gyfrol 4to, ei History and Antiquities of the County of Cardigan, a gyfrifid y pryd hynny - ac yr oedd gweithiau o'r fath ar siroedd eraill yn cael eu cyhoeddi - yn waith gwerthfawr; cafwyd ail argraffiad yn 1807 (a thrydydd yn 1907). Bu'n cydweithio â Charles Hamilton Smith i gyhoeddi Costume of the Original Inhabitants of the British Islands (London, 1815), cyfrol ffolio ag ynddi 24 o ddarluniau lliwiedig.

Gan iddo fethu prynu adfeilion castell Goodrich, gerllaw Ross-on-Wye, prynodd y bryn gyferbyn ac adeiladodd arno blasty, y rhoes yr enw Goodrich Court arno; trefnodd fod yn y plasty ystafelloedd arbennig i gadw ac arddangos ei gasgliad o wisgoedd rhyfel dur, etc. Cyhoeddasid ei waith ar y pwnc hwn yn 1824, yn dair cyfrol 4to: A Critical Inquiry into Antient Armour as it existed in Europe, and particularly in England, from the Norman Conquest to the Reign of King Charles II; cafwyd ail argraffiad 20 mlynedd wedi hynny. Yn 1830 (ail arg. yn 1854) cyhoeddwyd Engraved Illustrations of Antient Arms and Armour from the Collection at Goodrich Court. Ysgrifennai i Archaeologia, The Gentleman's Magazine, The Cambrian Quarterly Magazine, Archaeologia Cambrensis (e.e. I, ii, a I, iii), etc. Ei waith mwyaf ei wasanaeth i Gymru ydoedd, Heraldic Visitations of Wales and Part of the Marches between the years 1586 and 1613, under the authority of Clarencieux and Norroy, two Kings at Arms, by Lewys Dwnn, Deputy Herald at Arms … transcribed … and edited … by Sir Samuel Rush Meyrick …. Published for the Welsh MSS. Society (Llandovery, etc., 1846). Y mae'r gwaith hwn, sydd yn ddwy gyfrol 4to fawr, ac wedi ei gyflwyno i'r ' Society for the Publication of Ancient Welsh Manuscripts,' yn parhau i fod yn offeryn ymchwil pwysig; y mae ynddo lu o nodiadau gwerthfawr gan W. W. E. Wynne, Peniarth, Sir Feirionnydd. Y mae ' Llewelyn, a Historic Play in Five Acts,' gan ac yn llawysgrifen Meyrick, yng nghadw yn NLW MS 1233C , ac y mae llythyrau oddi wrtho yn NLW MS 1559B , NLW MS 1657C , NLW MS 1807E , a NLW MS 1892E . Ceir ei 'Collectanea de rebus celticis' yn NLW MSS 5386C, 5387E ; gweler hefyd NLW MS 1502E , NLW MS 1503E , NLW MS 1636E , a NLW MS 1637E . Cafodd Meyrick ei urddo'n farchog 22 Chwefror 1832. Bu farw yn Goodrich Court, 2 Ebrill 1848.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.