MEREDITH, ROBERT (1823 - 1893), argraffydd yn U.D.A.;

Enw: Robert Meredith
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1893
Rhiant: Robert Meredith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 23 Medi 1823 yn Y Ffynnon, Blaenau Ffestiniog, mab Robert Meredith (y Parch. Robert Meredith, Holland Patent, N.Y., U.D.A., wedi hynny). Ymfudodd i America yn 1831, bu yn Utica ac wedyn yn Marcy, gerllaw Holland Patent, a chafodd ei addysg yn academi Holland Patent. Aeth yn brentis yn swyddfa argraffu E. E. Roberts yn Utica. Yn 1848 aeth i Efrog Newydd i argraffu Y Cyfaill, eithr symudodd i Rome, N.Y., a sefydlu ei argraffwasg ei hunan ac argraffu Y Cyfaill ynddi am 10 mlynedd. Symudodd i Racine, Wisconsin, yn 1861, ac yn 1863 i Chicago; yno, gyda'i ddau fab, sefydlodd wasg i argraffu cerddoriaeth. Ymysg y llyfrau Cymraeg a argraffodd y mae: Y Pregethwr a'r Gwrandawr, 1855, Y Drysorfa Gerddorol, 1856, a Blodau Paradwys, sef llyfr emynau at wasanaeth ysgolion Sul - y gerddoriaeth gan Sankey a'r geiriau wedi eu cyfieithu gan Meredith. Cyhoeddodd, 1885-6, Adgofion o'r Amser Gynt. Yn 1858 dechreuodd gyhoeddi Yr Arweinydd (Rome, N.Y.). Bu farw 20 Gorffennaf 1893 yn Chicago.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.