MEREDITH, LEWIS ('Lewys Glyn Dyfi '; 1826-1891), pregethwr a llenor

Enw: Lewis Meredith
Ffugenw: Lewys Glyn Dyfi
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1891
Priod: Nillie E. Meredith (née Phelps)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 22 Mawrth 1826 yn Ffactri'r Ffridd, ger Machynlleth. Addysg yn yr ysgol Sul ac mewn ysgolion dydd, ym Machynlleth i ddechrau, ac wedi hynny, pan symudodd y teulu i Gwmllinau, yng Nghemaes. Ymhyfrydai mewn llenyddiaeth er yn gynnar, a bu ganddo ran mewn sefydlu cymdeithas lenyddol ym Machynlleth (c. 1854), pan weithiai yn swyddfa Adam Evans yr argraffydd. Dechreuodd bregethu gyda'r Wesleaid yn 1849, ond methodd gael derbyniad i'w gweinidogaeth (1855) oblegid ansicrwydd ei iechyd. Wedi bod yn gofalu am Gymry Wesleaidd Witton Park, Durham (1855-6), ymfudodd i America, ac ar ôl blwyddyn mewn seminari fe'i derbyniwyd i weinidogaeth yr Eglwys Fethodistaidd Esgobol (1859). Er mai i eglwysi Saesneg y gweinidogaethai, daliai i ymddiddori yn y bywyd Cymreig; ysgrifennai i'r Eurgrawn a'r Drych, pregethai i'r Cymry pan gâi gyfle, a bu'n gofalu am eglwys Gymraeg y Wesleaid yn Chicago. Ymwelodd â Chymru yn 1863 i ddadlau achos plaid y Gogledd yn y Rhyfel Cartref yn America. Ar wahân i'w gyfraniadau i'r cylchgronau a enwyd a'r Traethodydd, cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Blodau Glyn Dyfi, 1852. Yn 1865 priododd Nillie E. Phelps, merch i weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Esgobol. Bu farw 29 Medi 1891, a chladdwyd ef yn Oak Park, Chicago.

Brawd iddo oedd RICHARD MEREDITH (1826 - 1856), awdur erthyglau i'r Traethodydd a'r Winllan, weithiau dan ei enw ei hun a phryd arall dan yr enw ' Caradog.' Bu am gyfnod byr yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid. Dyn afiach, cloff a fu farw ym mlodau'i ddyddiau, yng Nghwmllinau.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.