MAURICE
,
MATHIAS
(
1684
-
1738
),
gweinidog Annibynnol ac awdur
;
g. yn
1684
; mab i
deiliwr
o
Landdewi Efelffre
,
sir Benfro
, a
theiliwr
ei hunan, fel yr edliwir yn angharedig iddo gan
Jeremy
Owen
[q.v.]
. Ymaelododd yn
eglwys Henllan Amgoed
, ac aeth i
Gaerfyrddin
at
William
Evans
[q.v.]
i baratoi at y weinidogaeth; yno, mae'n debyg, yr oedd ar adeg yr ymraniadau cyntaf yn
eglwys Henllan
(
1707-9
). Yn yr ail ymraniad yno (
1711
) ymunodd
Maurice
a
Henry
Palmer
[q.v.]
ac eraill a aeth drosodd i
Ryd-y-ceisiaid
. Yn gynnar yn
1713
urddwyd ef yn
weinidog Annibynnol
Olney (Bucks.)
, ond ym mis
Tachwedd 1714
galwyd ef i
Rothwel (‘Rowel’), Northants.
, yn olynydd i
Richard
Davis
[q.v.]
— olyniaeth naturiol, pan gofiwn yr
Uchel-Galfiniaeth
a'r gred mewn hunan-lywodraeth gynulleidfaol ddiamod a arddelasai
Maurice
yn
Henllan
. Yn
1726
, sgrifennodd draethawd bychan,
Byr a chywir Hanes Eglwys Rhydyceished yn eu Nheulltuad o Henllan, trwy y Blynyddoedd
1707
,
1708
,
1709
, a gyhoeddwyd fel atodiad i'w lyfr
Y Wir Eglwys
, yn
1727
(adargraffwyd ef gan
D. M.
Lewis
yn
Y Cofiadur
,
1925
, 41-9); ateb i hwn oedd pamffled
Jeremy
Owen
,
Golwg ar y Beiau, etc.
,
1732
. Enwir gweithiau a chyfieithiadau
Maurice
yn
Llyfryddiaeth y Cymry
, dan
1711
,
1720
,
1727
,
1733
,
1734
,
1759
. Ei waith gwreiddiol mwyaf poblogaidd oedd
Social Religion Exemplified
,
1759
, a oedd erbyn
1860
wedi mynd drwy saith argraffiad. Cyfieithwyd talfyriad y
Dr.
Edward
Williams
[q.v.]
ohono yn
Gymraeg
, gan
Benjamin
Evans
,
Drewen
[q.v.]
, yn
1797
, a'r cwbl ohono gan
Evan
Evans
,
Nanty-glo
[q.v.]
, yn
1862
— aeth y naill a'r llall i fwy nag un argraffiad. Bu
Maurice
farw yn
Rothwell
yn
1738
(ni wyddys yr union ddyddiad).
Llyfryddiaeth:
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, iii, 346-7;
-
D. M. Lewis
yn
Y Cofiadur
,
1925
, 22-49;
-
T. Richards
yn
A History of Carmarthenshire
,
1935–9
, ii
(1939)
, 165-70.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor