MAURICE
,
HUGH
(
1775
-
1825
),
crwynwr, a chopïydd llawysgrifau
;
g. yn
Tyddyn Tudur
,
Llanfihangel Glyn Myfyr
,
sir Ddinbych
, yn
1775
(bedyddiwyd
5 Mehefin
), yn fab
Peter
Maurice
a'i wraig
Jane
, chwaer
Owen
Jones
(‘
Owain Myfyr
’) [q.v.]
. Aeth yn ieuanc i
Lundain
at ei ewythr gan weithio yn
Upper Thames Street
, a chymryd rhan yn ei
weithgareddau llenyddol a chymdeithasol
,
copïo llawysgrifau Cymraeg
, a'i le yng
Nghymdeithas y Gwyneddigion
. Mabwysiadodd grefft
crwynwr
, ac ymsefydlodd yn
Tooley Street
. Priododd yn
eglwys S. Olave
,
Tooley Street
,
Elizabeth Mary Louisa
, merch
Rowland
Jones
,
Greenwich
, genedigol o
Lan-ym-Mawddwy
(cynlywydd y
Gwyneddigion
), heb yn wybod i'w thad, ar ddydd cinio blynyddol y gymdeithas yn
1800
. Y flwyddyn honno, ef oedd
is-lywydd y gymdeithas
, ac yr oedd y
llywydd
,
Thomas
Roberts
,
Llwynrhudol
, a'r
cofiadur
,
John
Jones
(‘
Jac Glan y Gors
’)
yn gyfrannog o'r gyfrinach ac yn y briodas. Bu'n byw yn
Greenwich
, ac yn ddiweddarach ym
Mhengwern
,
Ffestiniog
, yn
Nhremadog
, ac yn y
Plas Gwyn
,
Llanrug
, lle y bu f.
18 Mawrth 1825
; yn
Llanfihangel Glyn Myfyr
y claddwyd ef. Yr oedd yn ysgrifennwr destlus ac yn medru
peintio â dyfrlliw
. Y mae un o'i gopiau cynnar, barddoniaeth
Gwalchmai
(llsgr.
N.L.W. 5391
, a ysgrifennwyd yn
1796
), mewn ysgrifen ‘farddol’ gyda lluniau. Efe a ysgrifennodd lawysgrifau
Llanstephan 161
ac
N.L.W. 36, 47, 113, 119, 122, a 185
. Erys nifer o'i lawysgrifau yng nghasgliad y
Cymmrodorion
yn yr
Amgueddfa Brydeinig
(
Add. MSS. 14962-15089
), ac yn
1849
cyflwynodd ei ferch,
Jane
Maurice
, 49 o gyfrolau o ysgrifeniadau ganddo ef ac
Owen
Jones
i'r
Amgueddfa
(
llawysgrifau Caerhun, Add. MSS. 31062-31110
). Cydnabuwyd ei gyfraniad i'r
Myvyrian Archaiology
yn y rhagair,
1801
. Efe oedd
awdur
y gerdd orau ar destun a osodwyd gan y
Gwyneddigion
yn
1804-5
, ond gan iddo esgeuluso dadlennu ei enw o fewn yr amser penodedig, cyflwynwyd y fedal i
David
Owen
(‘
Dewi Wyn o Eifion
’)
, awdur y gerdd ail-orau. Ysgrifennodd ei fab hynaf,
ROWLAND
MAURICE
, gyfieithiad o
Nennius
yn llsgr.
N.L.W. 119
,
4 Gorffennaf 1817
. Addysgwyd ei ail fab
PETER
MAURICE
(g.
Plas Gwyn
29 Mehefin 1803
a'i fedyddio yn
Greenwich
1 Gorffennaf 1804
) yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
(ymaelododd
1822
, a graddiodd yn
B.A.
1826
,
M.A.
1829
,
B.D.
1837
, a
D.D.
1840
), ac ordeiniwyd ef yn
ddiacon
(gyda theitl i guradiaeth
Llanbedr
a
Chaerhun
)
27 Ionawr
, ac yn
offeiriad
13 Hydref 1827
. Bu'n
gaplan
New College
,
Rhydychen
,
1828-58
, a
Choleg All Souls
,
1837-58
, ac yn
ficer
Yarnton
,
Rhydychen
, o
1858
hyd ei farw
30 Mawrth 1878
. Y mae'n adnabyddus ar gyfrif ei
emynau
, ei
waith ar gerddoriaeth eglwysig
, a'i
bamffledi yn erbyn Pabyddiaeth
. Cyfrannodd ei chwaer,
JANE
MAURICE
(g. ym
Mhandy Tudur
,
19 Hydref 1812
), 20 emyn i'w
Choral Hymn Book
,
1861
.
Llyfryddiaeth:
-
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
, i, 230-2;
- cofysgrifau'r Eglwys yng Nghymru, papurau ordeinio Bangor;
-
John Julian
,
A dictionary of hymnology, setting forth the
origin and history of Christian hymns of all ages and
nations
, Llundain, 1907
;
-
Leathart
,
Origin and Progress of the Gwyneddigion
Society of London
, 1831
, 44-5;
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
Y Cymmrodor
,
1951
, 94-5.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth