MAURICE, HENRY (1647 - 1691), clerigwr ac awdur

Enw: Henry Maurice
Dyddiad geni: 1647
Dyddiad marw: 1691
Rhiant: Sidney Maurice (née Parry)
Rhiant: Thomas Maurice
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd, os yw ei oedran ar ei dabled goffa yng nghapel Coleg Iesu ('44') yn gywir, yn 1647, ond yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), a ddywed mai 16 oed oedd pan aeth i'r Coleg, fe'i ganwyd yn 1648. Yr oedd yn fab i Thomas Maurice, B.D., curad parhaol Llangristiolus, a'i wraig Sidney, ferch Henry Parry, awdur Egluryn Phraethineb; yr oedd felly'n un o hil Tuduriaid Penmynydd - gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 106. O ysgol ramadeg Biwmares, aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen, a graddio yn Ionawr 1667-8; etholwyd ef yn gymrawd yn 1670; cymerth ei radd D.D. yn 1683; ac yn 1691 penodwyd ef yn athro diwinyddiaeth i'r brifysgol. Yr oedd yn ffefryn, yn gaplan, ac yn gydymaith i Syr Leoline Jenkins hyd 1680, pan benodwyd ef yn gaplan i'r archesgob Sancroft. Ar wahân i ddal rheithoraeth segur Llandrillo-yn-Rhos o 1684 hyd 1691, ni bu ddim a fynnai â Chymru wedi cyrraedd oedran gŵr, felly digon yma fydd cyfeirio at yr ymdriniaeth â'i yrfa a'i wethiau yn y D.N.B. - yr oedd yn ddyn a ganmolid ar bob llaw am ei fuchedd a'i ysgolheictod; bu'n dadlau â Richard Baxter ynghylch rheidrwydd y drefn esgobol. Bu farw'n ddibriod, o'r parlys, 30 Hydref 1691.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.