MAURICE
,
DAVID
(
1626
-
1702
),
clerigwr a chyfieithydd
;
mab
Andrew
Maurice
,
deon Llanelwy
. Yn ôl
Browne
Willis
,
bonheddwr
o
sir Amwythig
oedd
Andrew
Maurice
, ond yn ôl
Wood
(
Athen. Oxon.
), o
sir Ddinbych
. Dywed ‘
Llyfr Silin
’ a
Walter
Davies
(‘
Gwallter Mechain
’)
ei fod yn yr wythfed ach o
Ieuan Gethin
. Dywed
Philip
Yorke
(
Royal Tribes
) ei fod yn perthyn i gangen ddiweddar o deulu
Clenennau
. Ond yn ôl
D. R.
Thomas
,
S. Asaph
, pais arfau
Cunedda Wledig
oedd gan ei fab
David
Maurice
, ac nid eiddo
Owen Gwynedd
nac eiddo
Einion Efell
. Ymaelododd
David
Maurice
yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
,
3 Mehefin 1651
, a graddio'n
B.A.
1654/5
, ac
M.A.
1657
, o'r
Coleg Newydd
. Daliodd y swyddi eglwysig canlynol:
ficer
Llangernyw
,
1662
;
rheithor
Cegidog S. George
,
sir Ddinbych
,
1663
;
cylch-brebend
yn
Llanelwy
,
1664
;
canon
,
1666
;
ficer
Llanasaph
,
sir Fflint
,
1666
;
rheithor
Gwytherin
,
1675
;
ficer
Abergele
,
1684
,
Betws-yn-Rhos
,
1684
, a
Llanarmon-yn-Iâl
,
1696
. Daliai y tair swydd olaf pan fu f.,
1702
. Claddwyd ef ym mynwent
Betws-yn-Rhos
, ac y mae beddargraff
Lladin
ar ei feddadail. Cyhoeddwyd ei achwyniad mewn perthynas â'r ‘
Popish Plot
’ yn
The Information of J. Sergeant and D. Morris relating to the Popish Plot
,
1681
. Cyhoeddodd hefyd
The Promised Reed; a sermon preach'd … for the support of weak Christians
,
1700
, a chyfieithiadau
Cymraeg
o ddau o weithiau
Theophilus
Dorrington
o dan y teitlau,
Arweiniwr cartrefol i'r iawn a'r buddiol dderbyniad o Swper yr Arglwydd, …
1700
, a
Cynffwrdd i'r gwan Gristion, neu'r gorsen ysig
,
1702
.
Llyfryddiaeth:
-
C. Ashton
,
Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850
.
[1893?]
;
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
9266;
-
British Museum. Catalogue of Printed
Books
, 1882
.
Awdur:
John James Jones, M.A., (1892-1957), Aberystwyth