MATTHEWS
,
EDWARD
(
1813
-
1892
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur
;
g.
13 Mai 1813
, yn
New Barn
ger
Sain Tathan
,
Bro Morgannwg
, mab
Thomas
ac
Anne
Matthews
. Chwalwyd ei gartref pan oedd yn ieuanc ac ymfudodd y tad i
America
. Cafodd argyhoeddiad crefyddol o dan weinidogaeth
David
Morris
o'r
Hendre
. Aeth i weithio i
Hirwaun
yn
1827
a dechreuodd
bregethu
yno yn
1830
. Dychwelodd i'r Fro yn
1833
gan gartrefu ym
Mhen-llin
yn nhy
Mrs.
Truman
, gwraig weddw a ddaeth yn briod iddo yn
1843
. Ordeiniwyd ef yn
sasiwn Llangeitho
,
1841
; bu'n
efrydydd
yn
Nhrefeca
am dymor byr yn
1843
. Aeth i fugeilio
eglwys Penuel
,
Pontypridd
, yn
1849
; dychwelyd i'r
Ewenni Isaf
, ger
Penybont-ar-Ogwr
, yn
1852
; symud i
Gaerdydd
yn
1864
; trigiannu yn
Nhresimwn
o
1876 hyd 1883
, a gorffen ei grwydro ym
Mhenybont
. Bu farw yno
26 Tachwedd 1892
, a'i gladdu ym mynwent eglwys
Nolton
. Saif ei fri fel
pregethwr
yn uchel; dotiai'r cynulleidfaoedd ar ei arabedd yn nhafodiaith
Bro Morgannwg
; synnid hwy gan rym ei ddychymyg a'i arddull ddramatig, feiddgar; a dychrynid hwy gan ei floeddiadau annaearol. Ef oedd brenin y sasiwn am gyfnod hir ymhlith y
Methodistiaid Calfinaidd
. Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau dan olygiaeth
D. M.
Phillips
yn
1927
. Yr oedd yn
awdur
o fri hefyd. Ei waith mwyaf poblogaidd oedd
Hanes Bywyd Siencyn Penhydd
, a gyhoeddwyd yn llyfryn yn
1850
. Llyfr tebyg iddo yw
George Heycock a'i Amserau
,
1867
. Tynnodd lawer ar ei ddychymyg wrth eu llunio ill dau, a bu cryn ddarllen arnynt gan y werin. Ymddangosodd
Bywgraffiad Thomas Richard
[q.v.]
yn
1863
, ac yr oedd yn gyd-awdur
Cofiant J. Harris Jones
[q.v.]
,
1886
.
Golygodd ddwy gyfrol o bregethau
Morgan
Howells
yn
1858
a
1869
, a dwy gyfrol o bregethau
Thomas
Richard
yn
1866-7
. Ysgrifennodd lawer i'r
Traethodydd
,
Y Drysorfa
, a'r
Cylchgrawn
— cyhoeddwyd cyfrol o'i ysgrifau dan olygiaeth
W. Llywel
Morgan
yn
1911
. Arddull ymddiddanol, gwmpasog, oedd ganddo, ond y mae crebwyll a theithi gwir lenor ar ei waith, a cheir blas ar bob peth a ysgrifennodd.
Llyfryddiaeth:
-
D. G. Jones
,
Cofiant y Parchedig Edward Matthews o Eweni
gyda dyfyniadau o'i ysgrifeniadau, a dwy bregeth
,
Dinbych, 1893
,
1893
;
-
J. J. Morgan
,
Cofiant Edward Matthews, Ewenni
,
Wyddgrug, 1922
,
1922
.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe