MATHIAS, JAMES GORONWY (1842 - 1895), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a llenor

Enw: James Goronwy Mathias
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1895
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd ym Manceinion, 1842, ond symudodd yn ifanc i'r Penrhyncoch, Sir Aberteifi, ac yno y bedyddiwyd ef a'i godi i bregethu. Aeth i Aberdâr yn 1873 ac ymaelodi yn yr Ynys-lwyd, ac oddi yno yn 1874 i gwm Rhymni a chymryd gofal eglwys fechan Bethania, Troedrhiw'r-fuwch. Ymsefydlodd tua 1875 yn Ramah ac Errwd, Brycheiniog, ac, yn 1881, yn Llansantffraid a Glyndyfrdwy; ymddeolodd tua 1887 a symud i fyw i Gorwen. Ailddychwelodd i'r weinidogaeth gyda'r Saeson ym Mhontlotyn yn 1893 ac yno y bu farw 18 Chwefror 1895 yn 53 oed. Claddwyd ef yn Errwd.

Yr oedd yn llenor adnabyddus, a bu am beth amser mewn partneriaeth â T. Edmunds, argraffydd, Corwen. Ef oedd cychwynnydd a golygydd yr wyth rhifyn o'r Llenor Cymreig a gyhoeddwyd yng Nghorwen rhwng Ionawr 1882 a Hydref 1883; cyhoeddodd hefyd Yr Ystorgell, Y Gorsen, 1872; Yr Eginyn, 1874; Y Dywysen, 1874; ac Y Dywysen Aeddfed, 1875 - i gyd yn ôl pob tebyg at wasanaeth yr ysgol Sul a chyfarfodydd dirwest; a bu'n olygydd ac yn rhannol yn awdur Hanes Bywyd C. H. Spurgeon, 1892. Sgrifennai dan y ffugenw ' Goronwy Ddu.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.