MASON, RICHARD (1816? - 1881), argraffydd ac awdur, Dinbych-y-pysgod;

Enw: Richard Mason
Dyddiad geni: 1816?
Dyddiad marw: 1881
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Thomas Isfryn Jones

tybir mai brodor o sir Henffordd ydoedd. Bu'n dilyn galwedigaethau amaethyddol ar un adeg, ond gymaint oedd atyniad Dinbych-y-pysgod iddo fel y penderfynodd gartrefu yno, a bu'n un o aelodau mwyaf gweithgar a defnyddiol yr awdurdodau lleol am gyfnod o 30 mlynedd. Yn 1850 ymgymerodd ag argraffu a chyhoeddi Archaeologia Cambrensis ar ei gyfrifoldeb ei hun, ond ar yr amod ei fod yn derbyn hanner y tanysgrifiad blynyddol am bob rhifyn a ddosberthid i'r aelodau. Nid yw'r rhestr tanysgrifwyr am y flwyddyn honno yn cynnwys 130 o enwau i gyd. Yn 1855 aeth y gymdeithas ei hunan yn gyfrifol am y cyhoeddi ac yntau'n parhau i argraffu iddynt. Tua'r amser hwn, fel anturiaeth bersonol, dechreuodd gyhoeddi'r Cambrian Journal, a gwnaeth hynny o 1854 hyd 1864. Ef oedd awdur Guide to Tenby and its Neighbourhood, 1852, llyfr poblogaidd y bu sawl argraffiad ohono. Cyhoeddodd hefyd, yn ddienw, Tales and Traditions of Tenby, 1858. Bu farw 26 Rhagfyr 1881 yn ei 65 flwydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.