‘
MARTHA'R MYNYDD
’ (
fl.
tua 1770
),
twyllwraig
.
Yr oedd yn byw mewn bwthyn ar fynydd
Llanllyfni
, yn
wraig ‘ymadroddus, rithgrefyddol.’
Llwyddodd i gael gan lawer yn yr ardal gredu bod ganddi gydnabyddiaeth â ‘rhyw dylwyth a elwid Anweledigion,’ cenedl luosog a mawr ei chyfoeth a ymrodiai ym mhobman yn y fro, mewn ffair a marchnad, heb i neb ei chanfod. Yn neilltuol, yr oedd gŵr bonheddig o'r genedl hon, o'r enw ‘
Ingram
,’ yn byw gyda'i ferch mewn plasty hardd (ond
anweledig) ar y mynydd, yn agos i'w thŷ hi; byddai ‘
Miss
Ingram
’ yn wir ar brydiau'n ymddangos i fodau meidrol, mewn gwisg wen hyd ei thraed, a byddai ei thad yn pregethu, yn nhrymder y nos, i gynulliadau yn nhywyllwch bwthyn
Martha
. Odid nad ei gŵr hi ei hunan oedd ‘
Mr.
Ingram
’; yn bur sicr, hyhi oedd ‘
Miss
Ingram
,’ oblegid rhywdro pan oedd
Martha
wedi llosgi ei throed, sangodd rhyw amheuwr cyfrwys ar droed ‘
Miss
Ingram
’ yn ystod un o'r cyrddau cyfrin hyn, ac adnabu lais
Martha
yn ei dolur — ond bu raid iddo ffoi rhag llid y gwrandawyr cryfach eu hygoeledd. Eto, cyn pen hir ymledodd yr amheuaeth, ac aeth yr anweledigion yn fwy anweledig fyth. Edifarhaodd
Martha
wedyn, a diweddodd ei hoes yn aelod gyda'r
Methodistiaid
yn
Llanllyfni
.
Llyfryddiaeth:
-
Robert Jones (Rhoslan)
,
Drych yr
AmseroeddY Llenor
(Rhoslan) , 1820; arg. arall [1841]; arg. , yn , xv–xvi,
1898
,
1820
, 151-2 (=97 yn arg.
O. M. Edwards
);
-
W. R. Ambrose
,
Hynafiaethau, cofiannau, a hanes presennol
Nant Nantlle y traethawd buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol
Pen-y-groes, Llun y Pasg, 1871
, 1872
, 60.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor