MAREDUDD ab OWAIN ab EDWIN
(bu f.
1072
),
brenin Deheubarth
.
Perthynai i'r bumed genhedlaeth ar ôl
Hywel Dda
ac yr oedd yn gyfyrder, yn y llinach hynaf, i
Rys ap Tewdwr
[q.v.]
. Pan gwympodd
Gruffudd ap Llywelyn
[q.v.]
yn
1063
, adferwyd yr hen frenhiniaeth o dan ei arweiniad ef. Yr oedd cyfnod ei deyrnasiad yn cydredeg â thrawiad cyntaf y goncwest
Normanaidd
ar
Ddeheudir Cymru
. Wedi ymdrech fer ac unochrog, cydymddug â choncwest tiroedd y goror yng
Ngwent
a gwobrwywyd ef â thiroedd yn
Lloegr
; yn
1070
y bu hyn. Ddwy flynedd wedi hynny lladdwyd ef gan gyd-dywysog wrth
ymladd
ar
lannau afon Rhymni
. Gadawodd un mab,
Gruffudd
, a fu'n byw'n alltud ar diroedd
Seisnig
ei dad hyd nes y lladdwyd ef wrth iddo geisio adennill ei dreftadaeth oddi ar law
Rhys ap Tewdwr
.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth