MANSEL
,
WILLIAM LORT
(
1753
-
1820
),
pennaeth Coleg y Drindod, Caergrawnt, ac esgob Bryste
;
g.
2 Ebrill 1753
. Adroddir ei hanes yn y
D.N.B.
Aeth i
Goleg y Drindod
ddechrau
1770
; graddiodd yn
1774
(
D.D.
yn
1798
); etholwyd ef yn
gymrawd
yn
1775
; bu'n
athro'r clasuron
yn y coleg; ac etholwyd ef yn
bennaeth (‘Master’)
yn
1798
, gan
Pitt
. Yn
1808
penodwyd ef yn
esgob
Bryste
— ni welai'r oes honno unrhyw fai arno am ddal y ddwy swydd ynghyd. Bu f.
27 Mehefin 1820
. Yr oedd yn
ysgolhaig
da, ond efallai'n hynotach am ei ffraethineb a'i allu i
lunio epigramau a dychangerddi
. Pan ddyrchafwyd ef yn
ben ar ei goleg
, yr oedd hi'n ddrwg rhwng y cymrodyr yn herwydd gwahaniaethau politicaidd cyfnod y
Chwyldro Ffrengig
a'r rhyfel; ond bu
Mansel
yn hynod ddoeth wrth y llyw — gw.
G. M.
Trevelyan
,
Trinity College
, 81-3. Eithr â'i gysylltiadau
Cymreig
y mae a fynnom ni yma. Ganwyd ef yn nhref
Penfro
;
ei dad oedd
William Wogan
Mansel
. Nid yw'n glir beth oedd perthynas y teulu â
Mawnseliaid
Margam
neu
Fotlysgwm
ar y naill law, nac â
Woganiaid
Dyfed
ar y llall; ond gwyddys i'r ddwy gainc o'r
Mawnseliaid
ymbriodi o dro i dro â
Woganiaid
Cas Gwis
('
Wiston
’) a
Boulston
. Mam
W. L.
Mansel
oedd
Anne
Lort
, merch i'r
Roger
Lort
o
Prickaston
a fu f. yn
1745
a chwaer i'r
athro
Michael
Lort
(gw. dan ‘
Lort
’).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor