MALKIN
,
BENJAMIN HEATH
(
1769
-
1842
),
llenor a hynafiaethydd
;
g. (yn ôl carreg ei fedd)
23 Mawrth 1769
, yn
Llundain
. Adroddir ei
yrfa gyffredinol yn y
D.N.B.
: graddiodd yn y ddwy hen brifysgol (
D.C.L.
,
Rhydychen
,
1810
). Bu'n
brifathro
ysgol ramadeg Bury S. Edmund's
,
1809-28
, ac yn
athro hanes
ym
Mhrifysgol Llundain
yn
1830
; yr oedd yn
F.S.A.
; cyhoeddodd amryw lyfrau. Trown at ei gyswllt â
Chymru
. Merch oedd ei wraig,
Charlotte
, i'r
Parch.
Thomas
Williams
,
B.D.
, o
Lanbleiddian
,
prifathro
ysgol ramadeg y Bont-faen
a
churad
eglwys y dref. Teithiodd
Malkin
drwy
ddeheudir Cymru
(
1803
), a chyhoeddodd,
1804
, lyfr sy'n llawer mwy adnabyddus yn ei ail argraffiad (dwy gyfrol,
1807
),
The Scenery, Antiquities, and Biography of South Wales
. Dyma'r gorau, o ddigon, o'r hen lyfrau teithio ar y deheudir; ei sylwadaeth yn graff a diddorol, ei naws ar y cyfan yn garedig, ei wybodaeth o hanes
Cymru
(ac i raddau, o'i llenyddiaeth) yn sylweddol. Gwnâi
Malkin
ei gartref, o tua
1830
, yn yr ‘
Old Hall
,’ yn y
Bont-faen
. Ymddiddorai ym mywyd
Morgannwg
.
Sefydlodd gymdeithas
, ‘
The Society for the improvement of the working population in the County of Glamorgan
,’ ac yntau'n
llywydd
ac
ysgrifennydd
;
golygodd
y gyfres o 12 o'i phamffledau (rhestr yn
Cardiff Catalogue
, 452-3); cyhoeddodd hefyd ar wahân,
1831
, ddarlith a draddododd i'r gymdeithas. Bu f. yn y
Bontfaen
26 Mai 1842
; y mae arysgrif goffa iddo ef a'i wraig yn yr eglwys yno. Bu ei fab,
Syr
BENJAMIN
MALKIN
(a fu f. o'i flaen, yn
1837
), yn
farnwr
yn
Calcutta
; yr oedd yn gyfaill i
Macaulay
.
Llyfryddiaeth:
-
Hopkin-James
,
Old Cowbridge. Borough, Church, and
School
, Caerdydd, 1922
;
- a'r cyfeiriadau a roddwyd uchod.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor