MAELGWN ap RHYS
(
c.
1170
-
1230
),
arglwydd Ceredigion
;
mab yr
arglwydd Rhys
a
Gwenllian
, ferch
Madog ap Maredudd
. Ymddengys am y tro cyntaf yng ngwarchae
Dinbych-y-pysgod
yn
1187
; cymerth arno arwydd y groes pan fu
Gerallt Gymro
yn teithio trwy
Gymru
yn
1188
. Un byr o gorffolaeth ydoedd, terfysglyd ac ymladdgar, a pharodd ei ymarweddiad gryn ofid i'w dad yn ei flynyddoedd olaf. Yr oedd yn garcharor o
1189 hyd 1194
ac yn alltud pan fu
Rhys
f. yn
1197
. Dychwelodd gan benderfynu cael cyfran o diroedd y teulu a thrwy hynny parodd lawer o helynt ac anesmwythyd i'w frawd
Gruffydd
, ei elyn mwyaf ffyrnig, ac ar ôl
1201
, pan fu
Gruffydd
f., i'w neiaint,
Rhys
ac
Owain
. Trwy ymgynghreirio â
Gwenwynwyn
a'r
brenin
John
cafodd, yn
1199
, arglwyddiaeth
Ceredigion
, eithr cymerwyd y cymydau gogleddol oddi arno gan
Lywelyn
yn
1207
. Ei fethiant i adennill y tir hwn wedi iddo helpu
John
i ennill buddugoliaeth ar
Lywelyn
yn
1211
a barodd iddo, y mae'n fwy na thebyg, fynd drosodd ac ymuno â phlaid
Llywelyn
. Gwelir, fodd bynnag, nad oedd cred
Llywelyn
ynddo ddim yn ddiysgog oblegid pan aethpwyd i rannu tiroedd yr
arglwydd Rhys
o dan nawdd
Llywelyn
yn
1216
cadwyd
Maelgwn
allan o'r holl diroedd uwchlaw
afon Aeron
. Bu f. yn
Llannerch Aeron
yn
1230
; claddwyd ef yn
Ystrad Fflur
; a dilynwyd ef gan ei fab,
Maelgwn Fychan
.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth