MADOG FYCHAN ap MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1269);

Enw: Madog Fychan ap Madog ap Gruffydd
Dyddiad marw: 1269
Rhiant: Madog ap Gruffydd Maelor
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

ŵyr Gruffydd Maelor I a brawd Gruffydd Maelor II. Pan fu ei dad farw yn 1236 ymunodd Madog Fychan yn y rhannu a ddilynodd ar Powys Fadog. Yr oedd ei osgo ef ar broblemau gwleidyddol mawr y cyfnod yn gyffelyb i eiddo Gruffydd Maelor I. Yn 1245 ceir ef ymhlith cynghreiriaid Dafydd II; yn 1258 yr oedd ar ochr Llywelyn II. Nid oedd y ffaith i'w ymrwymiad ar ran Tudur ab Ednyfed gael ei dderbyn gan Harri III yn 1246 yn gwneud cyffelyb ymrwymiad yn llai derbyniol yng ngolwg Llywelyn ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Bu farw fis Rhagfyr 1269 ac efallai ei gladdu yn abaty Glyn y Groes (' Valle Crucis '), tŷ yr oedd yn noddwr iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.