MADOG ap GWALLTER
, ‘
Y Brawd
,’
bardd crefyddol
.
Nid oes sicrwydd am ei ddyddiadau, ond y mae'n debyg mai
ail hanner y 13eg g.
oedd ei gyfnod, er nad yw'n amhosibl ei fod ychydig yn ddiweddarach. Ef oedd awdur y gerdd swynol ar enedigaeth
Crist
: ‘
Mab an rhodded, mab mad aned, dan ei freiniau
,’ y gellir ei hystyried y garol Nadolig hynaf yn yr iaith
Gymraeg
sydd ar gael. Ceir awdl o'i waith hefyd i
Dduw
, a chyfres o englynion i
Fihangel
. Y mae arddull ei holl waith, ac yn arbennig felly ei gân i'r Geni, yn symlach a mwy cartrefol ei ffigurau nag sydd yn gyffredin gan y Gogynfeirdd, ac y mae ôl myfyrdod ddisgybledig ddiwinyddol ar ei awdl i Dduw. Gwyddom fod y
Brodyr Llwydion
yng
Nghymru
erbyn
1237
, oblegid fe godwyd tŷ iddynt yn
Llanfaes
yn y flwyddyn honno gan
Lywelyn Fawr
. Fe geir holl awyrgylch a ffresni'r meddwl
Ffransiscaidd
cynnar yng ngwaith
Madog ap Gwallter
, ac y mae'n dra thebyg ei fod yn perthyn i
Urdd Sant Ffransis
. Dengys ei englynion i
Fihangel
ei fod yn enedigol o ryw
Lanfihangel
. Ceir gwaith
Madog ap Gwallter
yn y
Myv. Arch.
, 273-5; a'i ganu i Dduw, ac i'r Geni, yn
Llyfr Coch
Hergest, 1151-4
. Nid oes dim o'i waith yn
llawysgrif Hendregadredd
.
Yn
llawysgrif Caerdydd 2.611
, sydd i'w dyddio yn
niwedd y 13eg g. neu ddechrau'r 14eg.
, ac sy'n cynnwys testun
Lladin
o'r ‘
Dares
’ a
Brut
Sieffre
, fe geir 26 llinell o farddoniaeth
Ladin
lle sonnir am hen wrhydri brenhinoedd y
Brythoniaid
, a bod
Sieffre
wedi cyfieithu eu cerddi mawl. Fe'i geilw'r awdur ei hun yn ‘
Frater Walensis madocus edeirnianensis
.’ Deil
Syr
Ifor
Williams
(
B.B.C.S.
, cyf. iv, rhan ii, 133-4) ei bod yn debygol mai'r un
bardd
ydyw hwn â'r ‘
Brawd
Fadawg ap Gwallter
,’ ac os felly, yr oedd yn hanfod o
Lanfihangel Glyn Myfyr
, plwyf a gamgysylltir ag
Edeirnion
hyd yn oed yn
1254
, serch mai i
Ddinmael
y perthyn mewn gwirionedd (gw.
Owen
,
Pembrokeshire
, iv, 513, nodyn 1).
Llyfryddiaeth:
-
Ynghyd â'r ffynonellau uchod, gw.
Henry Lewis
,
Hen Gerddi Crefyddol
, Caerdydd,
1931
, a'r
Y Tyst
,
25 Rhagfyr 1947
.
Awdur:
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban