Fel copïwr proffesyddol mwyaf ei gyfnod yr haedda ei gydnabod; nid oedd yn gopïwr mor doreithiog â John Jones o'r Gelli Lyfdy neu Robert Vaughan o Hengwrt , ond y mae mwy o drefn a dosbarth yng nghynnwys ei lawysgrifau, heb ddim o fympwyon llythrennol ei gyfoeswyr. Y mae yn aros 13 o'i lawysgrifau — saith yn llawysgrifau o gywyddau ac awdlau, un casgliad o gwndidau, un llawysgrif achyddol, a phedair yn cynnwys testunau rhyddiaith. Ei gyfnod prysuraf fel copïwr oedd 1585-95 ; 1595-1600 ei oes aur; a 1600-13 a roes inni ei gyfraniadau pwysicaf, sef ei lyfrau hirgul — ‘ Llyfr Hir Amwythig ,’ ‘ Llyfr Hir Llywarch Reynolds ,’ q.v. a ‘ Llyfr Hir Llanharan .’ Trwy ei ddiwydrwydd y diogelwyd casgliadau pur gyflawn o farddoniaeth beirdd distadlaf Morgannwg yn hanner olaf yr l6eg g. ochr yn ochr â barddoniaeth rhanbarthau eraill Cymru . Yn ei law ef hefyd ( Llanover MS. B 9 ) y ceir y casgliad cyflawnaf o gwndidau sy'n ffynhonnell ein gwybodaeth am hanes y cwndid a datblygiad y canu rhydd ym Morgannwg yn yr 16eg g. Pwysig hefyd yw ei lawysgrifau o ryddiaith; ei gopi ef o'r ‘ Drych Cristnogawl ’ ( Gruffydd Roberts ) yw'r unig gopi cyflawn a oroesodd yn cynnwys y tair rhan o'r ‘ Drych ’ ( Singleton MS. 1 , Caerdydd ); yn Llanover MS. B 17 ceir testun o ‘ Chwedl Seith Doethon Rufain ’ sydd yn gwbl wahanol i'r naw testun arall a oroesodd mewn llawysgrifau, ac yn ei ysgriflaw ef y mae'r unig gopi Cymraeg o'r ‘ Gesta Romanorum .’ Yn ei lawysgrifau y ceir y darlun cyflawnaf o fywyd llenyddol byw ei gyfnod ym Morgannwg , a thrwy ei weithgarwch y rhoed ar gadw lawer o drysorau ein llên mewn cyfnod a oedd yn enwog am ei chwalu a'i ddinistrio.
Thomas Oswald Phillips, M.A., Caerdydd