LLWYD
(
LLOYD
),
HARRI
(bu f.
1799
),
pregethwr cynorthwyol Wesleaidd
.
Erys manylion ei hanes cynnar o hyd yn ddirgelwch. Dywaid iddo gael ei argyhoeddi o bechod dan weinidogaeth
Dafydd
Jones
(nai
Griffith
Jones
,
Llanddowror
?) yng
nghapel anwes Llanlluan
; dyfnhawyd yr argyhoeddiad gan bregethu
Howel
Harris
, a daeth i'r goleuni llawn tua mis
Awst 1743
— un o'r ychydig ddyddiadau gweddol
sicr yn ei hanes cynnar. Bu'n
pregethu'n gynorthwyol
gyda'r
Wesleaid
o tua
1746
hyd ei farw yn
1799
. Er bod sôn amdano'n
pregethu
yng
Nghernyw
unwaith, cyfyngodd ei wasanaeth gan mwyaf i
seiadau Wesleaidd
Deheudir Cymru
; enwir ef yng nghofnodion cynhadledd
1747
ymysg y rhai ‘
that assist us only in one place
.’ Yn
1779
dywaid
Wesley
na fwriadwyd iddo fod yn weinidog sefydlog yn unman: ‘
he is only permitted to preach up and down, chiefly in
Welsh
, at the discretion of the Assistant
.’ Daliodd yn gyfeillgar â
Howel
Harris
ar hyd ei oes, a bu'n
pregethu
yn
Nhrefeca
yn
1771 a 1772
. Ysgrifennodd
Profiad Tufewnol o Nefoedd ac Uffern
,
1750
;
Hymnau ar Amryw Ystyriaethau
,
1752
;
Pregeth ar Farwolaeth Parchedig G. Whitefield … gan J. Wesley
(cyf.
Llwyd
,
1771
);
Marwnad … Howell Harris
,
1773
.
Llyfryddiaeth:
-
Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid
Calfinaidd
., xxix, 81-93;
-
A. H. Williams
,
Welsh Wesleyan Methodism, 1800-1858 its
origins, growth and secessions
, 1935
(mynegai) ac yn
Er Clod Saith Bennod ar Hanes Methodistiaeth
yng Nghymru
(gol.
T. Richards
), 19-21;
-
John Wesley
,
The letters of the Rev. John Wesley
,
1931
, vi, 359; viii, 134;
-
Proceedings of the Wesley Historical
Society
, 1893 ff
, Rhif 1, 49.
Awdur:
Y Parch. Griffith Thomas Roberts, M.A., (1887-1977), Tregarth, Bangor /
Talsarnau