LLWYD
,
ANGHARAD
(
1780
-
1866
),
hynafiaethydd
;
g.
15 Ebrill 1779
yng
Nghaerwys
,
sir y Fflint
, merch
John
Lloyd
[q.v.]
,
rheithor
Caerwys
. Yr oedd
Angharad
Llwyd
yn aelod o (ail)
Gymdeithas Cymmrodorion Llundain
, a
derbyniodd lawer o fedalau aur ac arian mewn eisteddfodau am ei thraethodau
. Yn
eisteddfod y Trallwng
,
1824
, cafodd yr ail wobr am ‘
Catalogue of Welsh Manuscripts, etc., in North Wales
’; dau draethawd arall o'i heiddo oedd ‘
Genealogy and Antiquities of Wales
’ a ‘
The Castles of Flintshire
.’
Golygodd a chyhoeddodd
argraffiad o
History of the Gwydir Family
(
Syr
John
Wynn
). Ei phrif waith cyhoeddedig oedd
History of the Island of Mona
; derbyniasai hwn y brif wobr yn
eisteddfod Biwmares
,
1833
. Treuliodd gyfran helaeth o'i hoes yn
copïo llawysgrifau mewn llyfrgelloedd preifat trwy'r wlad
; ceir syniad am faint ei diwydrwydd yn copïo ac am swm ei chyfraniadau hi ei hun os edrychir ar y llu llawysgrifau o'i heiddo sydd yng
nghasgliadau Kinmel
, etc., yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Bu f.
16 Hydref 1866
yn
Tŷ'n y Rhyl
.
Llyfryddiaeth:
-
Notable Welshmen (1700–1900)
,
1908
;
-
‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27
cyf., N.L.W. MSS. 9251–77
;
-
T. Pennant
,
A Tour (Tours) in [North] Wales
, 1773.
1778, etc
, I, vi-vii;
-
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1828
, 36-58;
-
Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
781,
1551
-
1616
;
-
Archaeologia Cambrensis
,
1867
, 69.
Awdur:
Y Parchedig Ganon Evan Gilbert Wright, M.A., B.D., (1903-1993/4),
Bangor