Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , WILLIAM ( 1627 - 1717 ), esgob Llanelwy , g. 18 Awst ; mab i glerigwr pur enwog ( Richard Lloyd , Sonning [q.v.] ), ŵyr i'r bardd Dafydd Llwyd o'r Henblas [q.v., 94] ac aelod o deulu Cymreig a rifai nifer anghyffredin o esgobion a chlerigwyr yn ei dablau achau. Daeth yn gymrawd o Goleg Iesu , Rhydychen , M.A. yn 1646 , D.D. yn 1667 . Yn ystod y Weriniaeth , go anodd oedd ei yrfa, a rhoddodd olwyn ffawd aml i dro go ryfedd; wedi'r Adferiad cododd o ris i ris, un o brebendariad S. Paul's , caplan i'r dywysoges Mary , a phregethu pregeth, yn llawn o syniadau gwrth-Babyddol , yn angladd Syr Edmund Berry Godfrey yn 1678 . Nid oedd Brotestant mwy nag ef yn y wlad, nac Eglwyswr mwy digymrodedd, fel y profodd pan ddaeth yn archddiacon Meirionnydd yn 1668 , deon Bangor yn 1672 , ac yn enwedig pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy yn 1680 . Cafodd gynadleddau, mae'n wir, gyda phrif Anghydffurfwyr yr esgobaeth ( 1680-2 ), gyda John Evans yr Annibynwr , Thomas Lloyd y Crynwr , a Philip Henry a James Owen [qq.v.], Presbyteriad , ond dengys ei lythyrau at yr archesgob Sancroft ei fod yn dal yn stond at ei ddaliadau eglwysig digamsyniol; a dengys ei lythrau at yr arglwydd ganghellor Jeffreys fel y cythruddid ef yn arw gan ystyfnigrwydd rhai o'r sectariaid, arafwch ysgafala siryddion sir Ddinbych , awdurdod wan ysbeidiol y Sesiwn Fawr , a'r gwritiau ‘supersedeas’ a ddeuai allan o lys y siawnsri . Nid oes ddadl nad oedd yn esgob manwl a llym; yn 1680 archodd i'r clerigwyr gadw ‘notitia’ am bopeth pwysig ynghylch eu plwyfi , a daliwyd ymlaen gyda'r gwaith hyd 1686 ; credai mewn pregethu cryf effeithiol, ac aeth yn bur bell i sicrhau hynny; ac er nad oes sicrwydd ei fod ef ei hun yn medru siarad Cymraeg , mynnodd weled Cymry da yn gwasanaethu plwyfi Cymreig , a dywedodd eiriau chwyrn iawn wrth Saeson uniaith fel Thomas Clopton , rheithor Castell Caereinion . Nid oedd yn syn bod Protestant mor eiddgar ag ef, ac Eglwyswr mor selog, yn un o'r Saith Esgob yn 1688 ; yn wir, o law yr esgob Lloyd y derbyniodd y brenin gopi o'r petisiwn enwog. Yr oedd ef gyda'r blaenaf yn fforddoli chwyldro 1688-9 ; yn 1692 codwyd ef i Lichfield , ac yn 1700 i Worcester . Bu f. 30 Awst 1717 , ei flynyddoedd olaf yn flin a phiwus oherwydd gormod ymwneud â phroblemau lleol, a chred rhy lythrennol ym mhroffwydoliaeth Daniel ac yn adnodau dyrys llyfr y Datguddiad . Dyn dysgedig, heb ddim amheuaeth, a dadleuwr miniog barod; yr oedd yn awdur cyfres o bamffledau sylweddol yn erbyn Pabyddiaeth , a gwaith mwy uchelgeisiol, Historical Account of Church Government , a gyhoeddwyd yn 1684 . Weithiau troai ei feddwl at faterion tu allan i gylch yr Eglwys , fel y gwelir oddi wrth y llythyr hir dysgedig a ysgrifennodd at Thomas Price o Lanfyllin ynghylch Historia Sieffre o Fynwy .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 122;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , i, 124-35;
  • A. G. Edwards , Landmarks in the History of the Welsh Church , 1912 , 278-80;
  • Llawysgrifau Tanner xxx (24, 172), xxxiv (31, 64), xxxv (135, 171, 190); cxlvi (30, 33), xciv (103-6), cclxxxii (138);
  • Philip Henry , Diaries and letters of Philip Henry, M.A. of Broad Oak, Flintshire, A.D. 1631-1696 , Llundain, 1882 , 309, 311, 313-4, 316, 335-6.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor