Ganed i Simon a Sarah Lloyd chwech o blant. Y pedwerydd o'r rhain oedd LYDIA LLOYD , a ddaeth yn wraig i Thomas Foulkes [q.v.] . Yr hynaf oedd y Simon Lloyd y mae a wnelo'r ysgrif hon ag ef; g. ef yn 1756 . Dywedir iddo fynd i ysgol yn Bath , a dengys llythyr gan Thomas Charles ( D. E. Jenkins , Thomas Charles , i, 153) iddo fod yn ysgol ramadeg y frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin . Aeth i Goleg Iesu , Rhydychen , yn Ebrill 1775 , a graddiodd yn 1779 ( Foster , Alumni Oxon. ). Urddwyd ef, a bu'n gurad yn Olveston o 1779 hyd 1783 , ond yna cafodd guradiaethau yn Llandegla a Bryneglwys . Collodd Fryneglwys yn Hydref 1783 am gyfathrachu â'r Methodistiaid , ond daliodd at Landegla hyd 1788 . Dywedir yn fynych iddo fod yn gurad Llangwm a Cherrig-y-drudion , ond cais yn unig a wnaeth am y swydd hon, a hynny cyn gadael Olveston . Ond y mae'n sicr iddo fod yn gurad Llanycil am dymor na wyddys mo'i ddechrau (yr oedd yno yn 1796 ) ond a barhaodd hyd 1800 ar waethaf anghydfod rhyngddo a'i reithor gwrth-Fethodistaidd ( D. E. Jenkins , op. cit., ii, 402, etc.). Ym mis Mai 1800 gwahoddwyd ef gan blwyfolion Llanuwchllyn i fod yn gurad y plwyf , cydsyniodd y noddwr ( Syr Watkin Williams-Wynn ) ar ôl cryn betruster; ond gwrthododd yr esgob yn bendant (Tachwedd) ei sefydlu. O hynny allan ni bu Simon Lloyd o gwbl mewn swydd eglwysig — byddai'n gweinyddu ar dro, mor ddiweddar â 1811 beth bynnag. Wrth gwrs, nid oedd raid iddo wrth dâl. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i Thomas Charles ; y mae llawer o'u llythyrau yn llyfr D. E. Jenkins , a Lloyd a sgrifennodd yr ysgrif goffa ar Charles yn yr Evangelical Magazine , 1815 . Daeth yn ŵr dylanwadol iawn ym Methodistiaeth y Gogledd — erbyn 1811 yr oedd yn un o'r unig dri chlerigwr Methodistaidd yno. Nid oedd yn bregethwr gwlithog, ac yn wir ni hoffai hwyl na gorfoledd. Cymeradwyai ordeiniad 1811 , serch (fel y digwyddai) na chymerth ran yn y gwasanaeth ordeinio. Cyhoeddodd yn 1817 Amseryddiaeth Ysgrythyrol , ac yn 1828 esboniad ar y Datguddiad ; ac yn y blynyddoedd 1819-27 ( T. M. Jones , Llenyddiaeth fy Ngwlad , 76) dug allan y drydedd gyfres o'r Drysorfa . Ymbriododd ( 1789 ) â Bridget Price o Ryd-colomennod ( Llangrannog ), a chawsant wyth o blant. Bu f. 6 Tachwedd 1836 , a chladdwyd ym meddrod ei deulu yn Llanycil . Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr yn y dulliau newydd o drin y tir . Bu ei feddiannau yn y Bala ac o'i chwmpas ym meddiant ei ddisgynyddion hyd yn ddiweddar iawn — y mae rhestr ohonynt yn Seren y Bala , 26 Mai 1951 .
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor