Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD ( FLOYD ), JOHN ( 1480 - 1523 ), cerddor ; g. yng Nghaerlleon-ar-Wysg . Y cyfeiriad cyntaf ato ydyw yn offeiriad y Capel Brenhinol yn 1505 ; penodwyd ef yn offeiriad eglwys plwyf Munslow , Hereford , 18 Medi 1506 . Rhoddwyd awdurdod iddo ar 12 Tachwedd 1511 — dan yr enw ‘ John Lloyd , Gentleman of the Chapel Royal ’ — i gael ‘ Black Chamelot Gown .’ Yn rhestr swyddogion y Capel Brenhinol , 27 Chwefror 1518 , cofnodir iddo dderbyn lifrai ar gyfer angladd y tywysog Harri . Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth eglwysig — yn offerennau a ‘motets.’ Ceir llawysgrif ( Add. MS. 31922 ) o ddau ddarn o'i eiddo yn yr Amgueddfa Brydeinig . Cofnodir ei farw yn John Hawkins , History of Music , fel y canlyn: ‘ John Floyd of Welsh extraction, Bachelor of Music , and a gentleman of the Royal Chapel , Temp. Hy. VIII. He made a pilgrimage to Jerusalem , returned, and died in the King's Chapel , and was buried at the Savoy Church with the inscription — Johannes Floyd , Virtutis et religionis cultor. obiit 3 April 1523 .’

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • John Hawkins , A general history of the science and practice of music , 1776 ;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1929-30 ;
  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890 ;
  • Grattan Flood , Early Tudor Composers biographical sketches of thirty-two musicians and composers of the period 1485-1555 , Llundain, 1925 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn