LLOYD
,
CHARLES
(
1766
-
1829
),
gweinidog ac ysgolhaig Undodaidd
;
g.
18 Rhagfyr 1766
yn bedwerydd mab i
David
Lloyd
[q.v.]
,
Brynllefrith
,
gweinidog Ariaidd
Llwynrhydowen
. Ar farw ei dad (
1779
) daeth dan ofal ei ewythr,
John
Lloyd
,
Coedlannau-fawr
; aeth yn
1784
i
academi ’Caerfyrddin’
, a gedwid ar y pryd yn
Abertawe
. Yn
1788
, ‘yn
Ariad
gweddol uchel,’ galwyd ef i fugeilio
eglwys Oat Street
,
Evesham
(bu sawl
Cymro
’n
weinidog
iddi); mynnai weinyddu’r Cymun heb ei urddo, a chafodd ei ffordd; ond pan aeth ymlaen i wrthod bedyddio babanod, derbyniwyd ei ymddiswyddiad (
1790
). Erbyn hyn, fe’i hystyriai ei hunan yn
Fedyddiwr Cyffredinol
, a chymerodd ofal eu heglwys yn
Ditchling
(
Sussex
); yma hefyd gwrthodai gymryd ei urddo. Dechreuodd (
1792
)
gadw ysgol
; yn
1793
ymddeolodd o’i ofalaeth a symud ei ysgol i
Exeter
, lle y bu’n llwyddiannus ddigon. Yn
1799
aeth i
ffermio
yng
Nghoedlannau
, a chollodd arian yn y gwaith hwnnw. Dymunai’n awr gael bod yn gyd-
weinidog
â
Davis
Castell Hywel
(yn
Llwynrhydowen
); ond yr oedd bellach yn
Undodwr
cydnabyddedig, ac ni fynnai
Davis
mohono — yr oedd hi ar y pryd yn bur ddrwg rhwng yr hen
Ariaid
a’r
Undodiaid
‘newydd’; gw. yr atodiad i
R. Jenkin
Jones
,
Unitarian Students at … Carmarthen
, a’r
Hist. Carms.
, ii, 241-2. Aeth rhai o aelodau
Llwynrhydowen
allan, a sefydlwyd dwy eglwys
Undodaidd
Pant-defaid
a
Chapel-y-groes
yn
1802
(gw. ysgrif
Charles
Lloyd
ar
D. J.
Rees
o
Lloyd-jack
, yn
Monthly Repository
,
1817
, 740
sqq.
) — dyma ddechreuad
Undodiaeth
swyddogol
yng
Ngheredigion
, ac yn yr ystyr honno
Charles
Lloyd
oedd ei thad. Ond yn
1803
, symudodd
Lloyd
i
Palgrave
(
Suffolk
), yn
weinidog
ac yn
ysgolfeistr
. Cafodd radd
LL.D. (Glasgow)
yn
1809
. Symudodd ei ysgol i
Lundain
yn
1811
. Bu f. ar ymweliad â
Chymru
,
23 Mai 1829
, yn
Llanbedr-pont-Steffan
, a chladdwyd yn
Llanwenog
. Er ei holl allu, nid yw ‘cranc’ yn enw anaddas i’w daro arno, fel y dengys y crynodeb uchod — dyn anhydrin, afrywiog ei dymer, chwerw ei araith a’i ysgrifen. Un o’r llyfrau rhyfeddaf yw ei hunangofiant,
Particulars of the Life of a Dissenting Minister
, a gyhoeddodd yn ddienw yn
1813
(ailargraffwyd ef gan
G. Eyre
Evans
,
1911
), llyfr gwerthfawr fel ffynhonnell hanesyddol, ond sydd hefyd yn cynnwys darluniau deifiol o rai o
Ariaid
ac
Undodiaid
y dydd. Sgrifennai’n fynych i’r
Monthly Repository
, a chyhoeddodd amryw bethau eraill a enwir yn ysgrif dda
Alexander
Gordon
arno yn y
D.N.B.
Llyfryddiaeth:
-
At y ffynonellau a nodwyd chwaneger
Lloyd Letters (1754–96)
, 1908
(gol.
G. Eyre Evans
), t. xxviii-xl, a 35-42;
-
T. Oswald Williams
,
Hanes Cynulleidfaoedd Undodaidd Sir
Aberteifi
, Llandysul, 1930
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor