Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , JOHN AMBROSE ( 1815 - 1874 ), cerddor ; g. 14 Mehefin 1815 , yn yr Wyddgrug , mab Enoch a Catherine Lloyd . Gwneuthurwr dodrefn oedd y tad, a phregethai gyda'r Bedyddwyr ; yn 1830 ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys Hill Cliffe , ger Warrington . Pan symudodd y teulu i Hill Cliffe , anfonodd Isaac Lloyd , ei frawd, a oedd erbyn hyn yn athro ysgol yn Lerpwl , am ei frawd John i'w gynorthwyo. Yn Lerpwl y cyfansoddodd ei dôn gyntaf yn 1831 , ac yntau yn 16 oed; ymddangosodd yn Y Gwladgarwr , 1835 , dan yr enw ‘ Wyddgrug .’ Wedi i Isaac ymadael â Lerpwl , aeth John yn athro cynorthwyol i ysgol breifat , ac wedi hynny i Ysgol Picton , ac yn 1838 penodwyd ef yn athro yn y ‘ Liverpool Mechanics Institute .’ Yn 1849 rhoddodd y swydd o athro i fyny oherwydd afiechyd, a chychwynnodd ef a chyfaill iddo fusnes fel ‘ lithographers ,’ ond trodd yr anturiaeth yn golled ariannol a rhoddwyd hi i fyny. Penodwyd ef yn gynrychiolydd masnachol dros Ogledd Cymru i Francis Firth , Lerpwl , ac wedi marw Firth , penododd ei olynwyr — y Mri. Woodall a Jones — ef, a dilynodd ei alwedigaeth fel trafaeliwr hyd 1871 , pan roes y swydd i fyny oherwydd afiechyd. Pan aeth i Lerpwl gyntaf mynychai eglwys Dewi Sant gyda'i frawd, ond ymunodd yn 1835 yn eglwys Annibynnol y Tabernacl , lle yr oedd ei gefnder Emrys ’ (y Parch. William Ambrose [q.v.]) yn aelod. Yn 1835 priododd Catherine , merch Edward ac Elizabeth Evans , aelodau yn y Tabernacl , ac fel yntau yn enedigol o'r Wyddgrug . Yn 1841 , wedi adeiladu capel Annibynwyr Brownlow Hill , symudodd o'r Tabernacl iddi; gwnaeth waith mawr yn y ddwy eglwys gyda chaniadaeth. Yn 1851 symudodd i fyw i Bwlch Bach , rhyw ddwy filltir o dref Conwy ; yno y cyfansoddodd yr anthem ‘ Teyrnasoedd y Ddaear .’ Yn 1852 aeth i Gaer i fyw, ac, yn 1864 , i'r Rhyl , lle y bu'n byw weddill ei oes. Yn 1843 dug allan Casgliad o Donau ; ceir 27 (a dwy anthem) o'i waith ef yn y casgliad. Tonau gwael a geir yn y casgliad hwn — y rhai a genid yng Nghymru yn y diwygiadau, ac a ddygwyd o Loegr . Clywodd ganu y rhai hyn yn blentyn, ac efelychodd yntau yr arddull. Yn 1870 dug allan gasgliad o donau, Aberth Moliant — o'r 27 a gyfansoddodd i gasgliad 1843 , ni chafodd ond dwy le yn Aberth Moliant , sef ‘ Wyddgrug ’ ac ‘ Eifionydd .’ Y mae'r tonau a gyfansoddodd wedi ymddangosiad Casgliad o Donau , 1843 , yn urddasol a defosiynol, ac yn y wir arddull eglwysig. Dyna ei wasanaeth mawr, sef rhoddi i'w genedl donau teilwng yn gyfryngau mawl, ar ôl iddynt fod yn canu tonau gwael a ddygwyd o Loegr i Gymru yn y 18fed g. Rhifa ei gyfansoddiadau dair cantawd, 28 o anthemau, dros 90 o donau (gw. rhestr ohonynt yn ei gofiant gan ei fab, C. Francis Lloyd ). Nid oes gasgliad o donau a ddefnyddir gan Gymry yn unrhyw ran o'r byd na cheir nifer da o'i donau ef ynddo, ac ers blynyddoedd lawer ceir ei donau yn rhai o gasgliadau y Saeson . Bu f. 14 Tachwedd 1874 a chladdwyd yn Lerpwl .

Llyfryddiaeth:

  • C. Francis Lloyd ac ‘Elfed,’ John Ambrose Lloyd. Hanes ei fywyd a'i weithiau. A ysgrifennwyd yn Saesneg gan ei fab, C. F. Lloyd … Cyfieithwyd a golygwyd gan Elfed , Wrecsam, 1921 ;
  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890 ;
  • Y Cerddor , Ebrill a Mai 1892 ; 1914 , 28; 1915, 72, 82, 137, 138.


Mab iddo oedd JOHN LLOYD ( 1840 - 1914 ), a fu'n organydd yng nghapel Annibynwyr Queen's Street , Caer . Bu'n dilyn am flynyddoedd yr alwedigaeth o drafeiliwr dros y Mri. Frost , Caer . Aeth i Lerpwl , a bu'n aelod o ffyrm Lloyd a Thomas , masnachwyr ŷd . Cyfansoddodd lawer o donau , ond cedwir ei enw'n fyw gan ei dôn ‘ Kilmorey ,’ 7.6., a gyfansoddodd i'r Ail Atodiad o Llyfr Tonau Cynulleidfaol ( Ieuan Gwyllt ). Bu f. 6 Medi 1914 yn Lerpwl , a chladdwyd ef ym mynwent Caerlleon . Mab arall oedd C. F. Lloyd [q.v.] .

Llyfryddiaeth:

  • Y Cerddor , Hydref 1914 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn