Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLEWELYN , SION ( 1690 - 1776 ), bardd ; g. 30 Tachwedd 1690 yn Cefn Coed y Cymer , plwyf Vaynor (y Faenor Wen) , sir Frycheiniog . Ychydig addysg a gafodd; dysgodd ddarllen Cymraeg , ond ni wyddai ddim Saesneg . Ac eto cyhoeddodd y bardd hunan-ddiwylliedig hwn gyfrol o'i farddoniaeth a'i emynau a fu mor boblogaidd nes y bu raid cael pedwar (pump?) argraffiad ohoni; teitl argraffiad 1791 ydyw Difyrrwch diniwaid … Sef deunaw o Ganiadau … Gyd a Naw o Hymnau duwiol .

Yn 18 oed daeth yn aelod yn hen gapel Cwmyglo ar ochr y mynydd rhwng Merthyr Tydfil ac Aberdâr . Arminiad oedd y bardd , fel ei weinidog , Roger Williams , a thrwy ei ganeuon gwnaeth lawer i wrthweithio dylanwad y syniadau Calfinaidd a goleddid gan rai o grefyddwyr y cylch. Yn 1747 symudodd yr Arminiaid i gapel newydd, yr Hen Dŷ Cwrdd yn Cefn , a daeth y bardd yn ddiacon cyntaf yr eglwys newydd honno. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, eithr dywed un llawysgrif ei fod yn wehydd . Bu f. 1 Ionawr 1776 a'i gladdu yn nhir yr Hen Dŷ Cwrdd ; rhoddwyd carreg goffa yn y capel ar 17 Awst 1947 . Ŵyr iddo oedd William Harri , Garw Dyle , Penderyn [q.v.] .

Llyfryddiaeth:

  • T. Lewis , Hanes Hen Dy Cwrdd, Cefn Coed y Cymer , 1947 , 1947 ;
  • W. Morgan , The Illustrated Vaynor handbook containing photographic views of Vaynor, Cefn Coed, Pontsarn and Morlais Castle, with the history and folk-lore of the parish , 1893 , 1893 ;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1159, 2196-7;
  • W. Rowlands , Llyfryddiaeth y Cymry , Llanidloes, 1869 ;
  • C. Ashton , Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850 . [1893?] ;
  • Y Drysorfa Gynnulleidfaol , Abertawe, 1843-1851 , 1845 .

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr