Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS (TEULU), Van , sir Forgannwg . Gellir trin y teulu blaenllaw hwn fel cyfangorff gan nad oedd yr un aelod ohono o bwys hanesyddol mawr. Yr oedd i'r teulu ddwy nodwedd — cart achau hir, a dawn arbennig i ychwanegu at y stad.

EDWARD LEWIS oedd y cyntaf i fabwysiadu'r cyfenw. Efe a adeiladodd rannau hynaf Van , gerllaw Caerffili , ac a amgaeodd y parc o gylch y plasty . Prynodd y rhan o stad abaty Keynsham a oedd yn cynnwys maenor Roath-Keynsham . Bu'n siryf Morgannwg yn 1548 , 1555 , a 1559 . Priododd Ann , merch Syr William Morgan , Pencoyd , sir Fynwy , aelod o deulu Tredegar .


Bu THOMAS LEWIS , ei fab, yn siryf Morgannwg yn 1569 . Ei wraig gyntaf ef oedd Margaret Gamage , Coety , a oedd yn weddw Miles Mathew , Llandaf , ar y pryd. Ychwanegodd at y Van ac adeiladodd dŷ'r teulu yn S. Mary Street , Caerdydd ; gorffennwyd tynnu'r tŷ hwn yng Nghaerdydd i lawr yn 1865 . Bu f. yng Nghaerdydd 2 Tachwedd 1594 . Y mae'r ‘inquisitiones post mortem’ a gynhaliwyd ar ôl ei farw ef o gryn bwys i haneswyr lleol.


Ei fab hynaf ef oedd Syr EDWARD LEWIS ( 1560 - 1628 ) [y gŵr a roes fywoliaeth Llanfaches i William Wroth , q.v. ], a fu'n siryf Morgannwg yn 1601 a 1612 ac a urddwyd yn farchog yn 1603 . Bu'n ymgyfreithio'n helaeth ac ychwanegodd lawer at y stad. Ei bryniad mwyaf diddorol ydoedd castell Sain Ffagan , a bwrcasodd gan Syr William Herbert , Caerdydd , yn 1616Amgueddfa Werin Genedlaethol Cymru erbyn hyn; yr oedd yr hyn a brynwyd yn cynnwys y plasty presennol a adeiladwyd gan Dr. John Gibbon c. 1590 . Bu f. 9 Ionawr 1628 .


Cafodd yr ail Syr EDWARD LEWIS hefyd ei urddo'n farchog yn 1603 . Yr oedd ef yn byw yn Edington , Wiltshire , eiddo y cymerodd brydles arno. Yr oedd yn ‘ Gentleman of the Privy Chamber ’ i'r tywysog Harri , mab hynaf Iago I , yn 1610 , ac yn ddiweddarach i'r tywysog Siarl . Bu f. yn Edington ar 10 Hydref 1630 — ddwy flynedd ar ôl marw ei dad.


Etifeddwyd y stad gan WILLIAM LEWIS (bu f. 1661 ), a briododd aeres stadau Brill a Bostal ac a ychwanegodd atynt. Yr oedd ef yn gryf o blaid y Senedd .


Y nesaf o'r teulu oedd EDWARD LEWIS ( 1650 - 1674 ); g. 30 Gorffennaf 1650 . Gadawodd ef y stad yn sir Forgannwg i'w ewythr


RICHARD LEWIS ( 1623 - 1706 ), gyda threfniant ei bod i ddisgyn o wryw i wryw (‘in tail male’). Prynodd Richard Lewis faenor Corsham ac yno y claddwyd ef. Bu f. 7 Hydref 1706 . Gwyddys iddo ef esgeuluso Van ; y mae'n bosibl mai efe a ddechreuodd adael iddo ymddadfeilio.


Ei fab ef, THOMAS LEWIS (a fu f. 1736 ), oedd y ‘ Lewis o'r Van ’ diwethaf. Nid oes sicrwydd ynghylch blwyddyn ei eni, ond y mae'n ddiau i hynny ddigwydd cyn 1668 . Bu'n aelod seneddol dros wahanol etholaethau am lawer o flynyddoedd. Bu f. ar 22 Tachwedd 1736 yn Soberton , Hampshire , eiddo ei wraig. Gadawodd unig ferch, ELIZABETH , yn aeres iddo; priododd hi Other Windsor , 3ydd iarll Plymouth .

Llyfryddiaeth:

  • G. T. Clark , Limbus patrum Morganiæ et Glamorganiæ being the genealogies of the older families of the lordships of Morgan and Glamorgan , Llundain, 1886 .

Awdur:

Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr