Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS , RICHARD ( 1817 - 1865 ), awdur g. 21 Mehefin 1817 mewn tyddyn o'r enw Yr Ysgol ym mhlwyf Llandegfan , Môn , yn fab i Thomas a Rebecca Lewis . Yn 1831 prentisiwyd ef fel dilledydd a groser ym Mangor . Ar ôl treulio peth amser mewn amryw ddinasoedd, a phedair blynedd ( 1840-4 ) yn Llundain , ymsefydlodd fel fferyllydd ym Modedern , Môn , yn 1844 . Cyfrannodd lawer o erthyglau i'r Traethodydd ar hynafiaethau Môn , a chyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan y teitl Y Rhosyn . Bu f. 2 Mawrth 1865 .

Llyfryddiaeth:

  • R. Môn Williams , Enwogion Môn / Anglesey worthies , 1770 ;
  • R. Hughes , Guide to the Collection of Welsh BygonesEnwogion Môn, 1850–1912 , 1913 1850-1912;
  • Y Drysorfa , Mawrth 1867 .

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth