Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS , RICHARD MORRIS ( 1847 - 1918 ), ysgolhaig a llenor ; g. 1847 yn Forest Arms , Brechfa , sir Gaerfyrddin , mab John a Leisa Lewis . Daeth yn brif glerc yn swyddfa'r Inland Revenue yn Abertawe . Bu'n ddiwyd yn cyfieithu emynau i'r iaith Gymraeg (ceir enghreitfftiau yn rhai o'r llyfrau emynau) a darnau, mewn mydr, o ‘ Iliad ’ Homer , ond efallai mai ei waith gorau fel cyfieithydd yw ei drosiad o Elegy Gray . Bu f. 20 Medi 1918 , a chladdwyd ef ym mynwent Brechfa . Y mae rhai o'i lawysgrifau yn Ll.G.C. ( NLW MS. 2249-50 ).

Llyfryddiaeth:

  • T. Gwynn Jones (gol.), Iliad Homer Cyfieithiadau gan R. Morris Lewis , Wrecsam, 1928 (Wrecsam, 1928);
  • Cymru , Mai 1926 , 143;
  • Yr Efrydydd , Bangor , Awst 1933 .

Awdur:

Y Parch. Athro John Oliver Stephens, M.A., B.D., (1880-1957), Caerfyrddin