LEWIS
,
Syr
HENRY
(
1847
-
1923
),
lleygwr blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
yng
Ngogledd Cymru
,
mab i
THOMAS
LEWIS
(
1821
-
1897
), a oedd yntau'n fab i
Thomas
Lewis
o
Lanwenllwyfo
a
Chemaes
ym
Môn
(
J. E.
Griffith
,
Pedigrees
, 257). Sefydlodd
Thomas
Lewis
yr ail
yn
1840
fasnach ŷd a blawd
, lwyddiannus iawn, ym
Mangor
. O
1886 hyd 1894
bu'n
aelod seneddol
dros
Fôn
, gan ddilyn
Richard
Davies
[q.v.]
. Teithiodd gryn lawer, a byddai'n
darlithio
mor fynych ar
Balesteina
nes cael yr enw ‘
Thomas Palestina Lewis
.’ Bu f.
2 Rhagfyr 1897
. Ganwyd
Henry
Lewis
ym
Mangor
,
21 Tachwedd 1847
, ac addysgwyd yn
Ysgol Friars
,
Bangor
, ac yng
Ngholeg y Methodistiaid Calfinaidd
, y
Bala
. Tyfodd yn ŵr pwysig iawn ym
Mangor
, ac yn ei gyfundeb yng
Ngogledd Cymru
. Bu'n gymwynaswr mawr i
Goleg y Gogledd
, yn enwedig pan aethpwyd ati i sicrhau tir at godi adeiladau newyddion y coleg. Cyhoeddodd yn
1901
(gyda
H.
Barber
)
The History of Friars School, Bangor
, ac yn
1907
lyfr ar
Eglwys y Tabernacl, Bangor
, sy'n cynnwys hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar hanes y dref. Priododd (
1872
) ag
Anne
, ferch
Roger
Edwards
[q.v.]
; cawsant saith o blant. Urddwyd ef yn
farchog
yn
1911
. Bu f.
16 Tachwedd 1923
.
Llyfryddiaeth:
-
Who was who?
;
- papurau yn Llyfrgell Coleg y Gogledd;
-
ar
Thomas Lewis
, gw. ymhellach
W. Hobley
,
Hanes Methodistiaeth Arfon
, 1910–24,
chwe chyfrol
, vi, 290 sqq.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor