Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS , ERASMUS ( 1670 - 1754 ), ysgrifennwr ‘news-letters’ a swyddog o dan Lywodraeth Prydain ; g. yn Abercothy , chwe milltir o dref Caerfyrddin . Aeth i Ysgol Westminster yn 1686 , ac i Goleg y Drindod , Caergrawnt , 1690 , gan raddio yn 1693 . Ym mis Hydref 1698 yr oedd yn Berlin , gyda'i ‘gâr,’ George Stepney , ac yn ysgrifennu ‘news-letters’ at George Ellis , A.S. , a cheisio rhyw swydd dan y Llywodraeth .

Ceir hanes ei yrfa yn y D.N.B. , ac felly nid oes eisiau yma ond cyfeirio mewn byr eiriau ato. Bu'n trafaelio ac yn byw yn Ewrop ; yr oedd ganddo o bryd i bryd swydd o dan y Llywodraeth , e.e. yn Paris ( 1700 neu 1701 ). Ym mis Mehefin 1702 yr oedd yng Nghaerfyrddin , yn athro ysgol , efallai. Daeth yn ysgrifennydd i Robert Harley ( iarll Oxford wedi hynny) yn 1704 ac yn 1708 yr oedd yn ysgrifennydd i Lywodraeth Prydain yn Brussels ; bu wedyn yn is-ysgrifennydd gwladol yn Lloegr o dan iarll Dartmouth , etc. O 1710 ymlaen ceir cyfeiriadau mynych at Lewis gan y deon Swift yn ei Journal to Stella ; yr oedd Lewis yn aelod o gylch llenyddol a gwleidyddol a gynhwysai Swift , Robert Harley , Alexander Pope , John Arbuthnot , a gŵr na enwir mohono yn y cysylltiad hwn yn y D.N.B. , sef Thomas Mansel ( barwn 1af Mansel ) , Margam [q.v.] . Ceir amryw lythyrau, 1700-13 , oddi wrth Lewis at Mansel yng nghasgliad Margam a Penrice yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru — llythyrau sydd yn llawn o newyddion (a siaradach) gwleidyddol, milwrol, a chymdeithasol, ac yn taflu llawer o olau ar hanes Lloegr ac Ewrop ; yn un ohonynt ( 16 Medi 1704 ) dywed Lewis ei fod yn gobeithio ceisio prynu ‘ the Estate late Sir Rice Rudds , in Caermarthenshire .’ Ym mis Hydref 1712 cafodd swydd (‘ provost-marshall-general ’) yn y Barbadoes , eithr cyflogodd ddirprwy i'w llanw drosto; ym mis Tachwedd y flwyddyn honno dewiswyd ef yn aelod seneddol dros Lostwithiel , Cernyw . Priododd, 1 Hydref 1724 (yn S. Benet , Paul's Wharf , Llundain ), Anne Bateman (gynt Jennings ) , gweddw Thomas Bateman , a bu'n byw yn Cork Street , Burlington Gardens , Llundain . Bu Lewis f. 10 Ionawr 1754 a chladdwyd ef yn abaty Westminster ; claddesid ei wraig yno eisoes ( 25 Tachwedd 1736 ). Gadawodd eiddo mewn gwahanol blwyfi yng Nghymru .

Llyfryddiaeth:

  • At y cyfeiriadau a roddir yn y Oxford Dictionary of National Biography ychwaneger ( a ) ail gyfrol catalog Ll.G.C. o ddogfennau Margam a Penrice;
  • ( b ) llythyr ynglŷn â churad Llanrhydian, Gŵyr, oddi wrth Lewis at Richard Smallbroke , esgob Tyddewi, yng nghasgliad Lucas (Hwlffordd) yn Ll.G.C.;
  • a ( c ) Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 3521, yn cynnwys pedwar llythyr oddi wrth Lewis at y barnwr Henry Watkins , Westminster.
  • A chofier am lythyrau Lewis sydd yng nghasgliad y Duke of Portland y cyfeirir atynt yn y Oxford Dictionary of National Biography

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth