Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS , DAVID ( 1760 - 1850 ), clerigwr ; g. yn 1760 yn y Dderwen Groes , ym mhlwyf Abergwili , sir Gaerfyrddin , yn fab i David Lewis , a'i addysgu yn Llanpumpsaint ac yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin dan Robert Gentleman . Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen (Coleg Iesu) , Mehefin 1782 , ond nid ymddengys iddo raddio. Bu'n athro ac yn gurad yng Nghroesoswallt , ac urddwyd ef yn offeiriad Mai 1785 ; yn Ionawr 1787 sefydlwyd ef yn ficer Abernant , sir Gaerfyrddin , ac yn gurad parhaus Cynwyl Elfed , Mawrth 1787 . Bu yno hyd ei farw, 28 Gorffennaf 1850 , a chladdwyd ef yn Abernant . Daliodd hefyd reithoraeth Garthbeibio , sir Drefaldwyn , o 1794 hyd 1850 .

Yr oedd Lewis yn ustus heddwch dros sir Gaerfyrddin , ac yn archwiliwr i'r gymdeithas a sefydlwyd gan yr esgob Thomas Burgess [q.v.] er cynorthwyo darpar-glerigwyr. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr eisteddfodau Caerfyrddin , ac ysgrifennodd ragair i bryddestau eisteddfod 1819 . Cyhoeddodd Esponiad Byr o Gatecism yr Eglwys , 1824 , sef cyfieithiad o waith B. Wood .

Llyfryddiaeth:

  • Yr Haul , 1850 , 320;
  • Seren Gomer , 1850 , 287;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , s.v. Garthbeibio;
  • A History of Carmarthenshire , 1935–9 , ii, 125;
  • The Welshman , 2 Awst 1850 ;
  • Cardiff Free Libraries, Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department , 1898 .

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth