Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LAWS , EDWARD ( 1837 - 1913 ), hanesydd sir Benfro , mab y llyngesydd John Milligen Laws (g. 1799 ), Marchfield House , Binfield , Berkshire , a Mary ( 1815 - 1899 ), merch Charles Delamotte Mathias (gw. dan Mathias ’), Lamphey Court a Llangwaran , sir Benfro . Priododd ei rieni ar 25 Mehefin 1836 a g. ef ar 17 Ebrill 1837 a'i fedyddio yn eglwys Lamphey ar 4 Gorffennaf . Cafodd ei addysg yn Rugby a Choleg Wadham , Rhydychen (ymaelododd 28 Mai 1856 ). Ei wraig, a fu f. ar 8 Mai 1897 , oedd Georgina Elizabeth Laws , merch hynaf y Parch. W. Nantes , Frome Vowchurch , Dorset . Am rai blynyddoedd bu'n swyddog yn y 35 (Royal Sussex) Regiment . Wedi ymsefydlu yn Ninbych-y-pysgod bu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus y dref a'r cylch am hanner canrif. Bu'n aelod o gyngor y dref ( 1897-? ), maer y fwrdeisdref ( 1900 ), yn ustus heddwch dros sir Benfro , a chadeirydd ustusiaid Dinbych-y-pysgod am gyfnod maith, ac yn 1899 efe oedd siryf sir Benfro . Ac yntau'n ŵr bonheddig ariannog , treuliodd lawer o'i hamdden dibrin yn astudio hanes ac archaeoleg sir Benfro . Ei brif weithiau yw Little England beyond Wales , 1880 , Church Book of St. Mary the Virgin, Tenby , 1907 , mewn cydweithrediad â'i ferch fabwysiedig Emily Hewlett Edwards , A Short History of the Civil War as it affected Tenby and its neighbourhood , 1887 , a nifer o ysgrifau yn Arch. Camb. , 1882-1906 . Gyda chynhorthwy'r Dr. Henry Owen [q.v.] cyn gorffen y gwaith, cynhyrchodd arolwg ar archaeoleg sir Benfro , ‘ Archaeological Survey of Pembrokeshire ,’ 1908 . Bu f. 25 Gorffennaf 1913 ar ôl damwain mewn cerbyd , a gadawodd un mab, Edward Lucian Laws .

Llyfryddiaeth:

  • The Tenby Observer , Mai 1897 , 31 Gorffennaf , 18 Medi 1913 ;
  • The Guardian (sir Benfro), 1 Awsit 1913 ;
  • Church book of St. Mary the Virgin, Tenby a , Dinbych, 1907 , 93;
  • Burke's Landed Gentry , s.n. Mathias;
  • William R. O'Byrne , A Naval Biographical Dictionary. Comprising the life and services of every living officer in Her Majesty's Navy, from the rank of Admiral of the Fleet to that of Lieutenant, inclusive. Compiled from authentic and family documents , Llundain, 1849 , 1849 ;
  • Foster , Alumni Oxonienses

Awdur:

Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth