KYFFIN
,
RICHARD
,
deon Bangor
(
c.
1480-1502
).
Nid oedd yn perthyn i unrhyw gangen o deulu adnabyddus y
Cyffiniaid
. Y mae'n bur debyg mai ef oedd
Richard ap John
neu
Ris ab Ieuan ap Ris ap Gruffydd
,
rheithor
Gyffin
yn esgobaeth
Bangor
, ‘mab rhieni dibriod,’ a gafodd yn
1470
drwydded gan y
pab
(gan ei fod wedi ei eni'n anghyfreithlon) i gael urddau eglwysig. Yr oedd yn
ŵr gradd yn y gyfraith ganon
. Pan oedd yn
ddeon
ymddengys ei fod yn gefnogwr gweithgar i
Harri
Tudur
yn ystod y blynyddoedd cyn
brwydr Bosworth
. Ailadeiladwyd côr yr eglwys gadeiriol yn ystod ei dymor fel
deon
, a chyflwynwyd un o'r ffenestri (sy'n cynnwys lluniau y
santesau
Dwynwen
a
Chatrin
) ganddo. Daliai
reithoraeth
Llanddwynwen
.
Sylfaenodd siantri S. Catrin yn yr eglwys gadeiriol
ac fe'i claddwyd ef yn ei hymyl yn yr asgell groes ddeheuol. Y mae arysgrif mewn efydd yn dangos ei feddrod, a elwid hyd y
18fed g.
yn fedd y
Deon Du
.
Ffynonellau:
-
Browne Willis
,
A survey of the cathedral church of Bangor;
and the edifices belonging to it …
(1721)
, 17, 34, 124;
-
Calendar of entries in the Papal Registers
relating to Great Britain and Ireland. Papal Letters
, xii, 782.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth